Jathara Parivartanasana (Y Boldro)

Oddi ar Wicipedia
Jathara Parivartanasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas lledorwedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ymarferion ioga yw Jathara Parivartanasana (Sansgrit ञठर परिवर्तनासन), neu'r Boldro[a] a gelwir y math hwn o asana yn asana lledorwedd gyda thro; fe'i ceir oddi fewn i Ioga modern fel ymarfer corff.[2][3][4]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r Sansgrit ञठर Jaṭhara, stumog neu abdomen; परिवर्तन Parivartana, i droi o gwmpas; a आसन āsana, ystum neu safle'r corff mewn ioga.[5]Little, Tias (20 Mawrth 2017). "Master Revolved Abdomen Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.</ref> Ni cheir yr asama (neu osgo) yma mewn testunau ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir mewn llawlyfrau o'r 20g gan gynnwys Light on Yoga 1966 BKS Iyengar.[6]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r asana llawn, a elwir weithiau yn Jathara Parivartanasana B, yn dilyn asana ar y cefn, gyda'r breichiau'n lledu ar y llawr, yn wastad â'r ysgwyddau. Ar gyfer yr asana llawn, mae'r coesau'n cael eu codi'n syth i fyny ac yna'n cael eu gostwng i un ochr, gan gadw'r ysgwydd gyferbyn ar y llawr.[6][7]

Yn Ioga ashtanga vinyasa, mae'r asana'n cael ei ddefnyddio'n ofalus, ar y cyd ag ymarferion cyhyrau dwfn, i helpu i leddfu poen yng ngwaelod y cefn: nid yw'n ddigon ar ei ben ei hun gan fod angen datblygu cryfder y cyhyrau craidd ar hyd yr asgwrn cefn hefyd.[8]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Ar gyfer osgo haws, a elwir weithiau'n Jathara Parivartanasana A,[3] mae'r pengliniau'n cael eu plygu dros y corff, a'u cylchdroi i un ochr;[5] gall y coesau wedyn gael eu sythu.[7]

Yn Ioga Iyengar, mae'r cluniau'n cael eu symud ychydig i ffwrdd o'r ochr y bydd y coesau'n disgyn cyn y cylchdro. Gellir dal pwysau yn y llaw ar yr ochr arall. Gellir hefyd ymarfer yr asana gyda'r coesau'n disgyn hanner ffordd i lawr.[9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The Book of Yoga: the complete step-by-step guide. Ebury. tt. 134–135. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  2. "Revolved Abdomen Pose (Jathara Parivartanasana): Steps, Precautions & Benefits". www.yogawiz.com. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  3. 3.0 3.1 "Jathara Parivartanasana A". Yogapedia. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "YP" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  4. "Belly Twist (Version A) | Jathara Parivartanasana A". Yoga Basics. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  5. 5.0 5.1 Little, Tias (20 Mawrth 2017). "Master Revolved Abdomen Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.Little, Tias (20 Mawrth 2017).
  6. 6.0 6.1 Iyengar 1979.
  7. 7.0 7.1 Mehta 1990.
  8. Steiner, Ronald (1 Mawrth 2014). "The Right Twist for a Healthy Back". Ashtanga Yoga. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  9. Mehta 1990, t. 85.


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>