Bharadvajasana

Oddi ar Wicipedia
Bharadvajasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu safle'r corff o fewn ioga yw Bharadvajasana (Sansgrit: भरद्वाजासन; IAST: Bharadvājāsana) neu Tro Bharadvaja; caiff ei ddefnyddio o fewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff.[1]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Cysegrwyd yr asana i'r doethor, yr awdur a'r academydd Indiaidd Bharadvāja[2] a oedd yn un o'r Saith Doethor Mawr neu Rishi.[3] Ef oedd tad Drona, meistr celfyddydau milwrol a gwrw brenhinol Kauravas, Pandavas a'r Devastras,[4] y tywysogion a ymladdodd rhyfel mawr y Mahabharata.

Darlunnir asana gwahanol dan yr enw Bharadvajasana yn y 19g Sritattvanidhi; mae'n debyg i Mayurasana gyda'r coesau yn Padmasana, ond fel y'i lluniwyd byddai'n amhosibl ei berfformio.[5]

Mae'r asana a adwaenir heddiw wrth yr enw Bharadvajasana yn un modern, a welwyd gyntaf yn yr 20g.[6] Fe'i disgrifir yng ngweithiau dau o ddisgyblion Krishnamacharya, Light on Yoga gan BKS Iyengar ym 1966[7] ac ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[6]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Bharadvajasana ll

Tro asgwrn cefn tra'n eistedd yw Bharadvājāsana. Y ffurf sylfaenol yw Bharadvajasana I, gyda'r coesau fel yn Virasana (yr Arwr), un droed ar y llawr a'r ffêr arall wedi'i orchuddio â bwa'r droed islaw.[8]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Amrywiad tebyg i Matsyendrasana

Mae Bharadvajasana II yn ffurf ddatblygedig sy'n gofyn am ystwythder yn y cluniau; plygir un goes fel yn Padmasana (y Lotws), tra bod y goes arall wedi'i phlygu fel yn Virasana.[9]

Mae Bharadvajasana ar gadair yn amrywiad a berfformir tra'n eistedd i'r ochr ar gadair heb freichiau. Nid yw hyn yn gofyn am ystwythder cluniau; mae'r breichiau'n gafael yng nghefn y gadair i gynorthwyo gyda'r tro. [10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. YJ Editors 2012.
  2. Iyengar 1979, t. 251—252.
  3. Inhabitants of the Worlds Mahanirvana Tantra, translated by Arthur Avalon, (Sir John Woodroffe), 1913, Introduction and Preface
  4. Hopkins 1915.
  5. Sjoman 1999, pp. 74 and plate 5 (pose 28).
  6. 6.0 6.1 Sjoman 1999, t. 100.
  7. Iyengar 1979.
  8. Mehta 1990, t. 72.
  9. Mehta 1990, t. 77.
  10. Mehta 1990, t. 71.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • YJ Editors (2012). "Bharadvaja's Twist". Yoga Journal. Cyrchwyd 2012-12-10.
  • Hopkins, Edward Washburn (1915). Epic Mythology. Noble Offset Printers. ISBN 978-0819602282.
  • Iyengar, B. K. S. (1979). Light on Yoga. Schocken. ISBN 978-0-8052-1031-6.
  • Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.
  • Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 978-81-7017-389-2.