Vrischikasana (Y Sgorpion)

Oddi ar Wicipedia
Vrischikasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
MathPincha Mayurasana (Y Paen Pluog), asanas gwrthdro Edit this on Wikidata

Asana, neu siap y corff mewn ioga yw Vrischikasana neu'r Scorpion a chaiff ei ddefnyddio mewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff, sy'n cyfuno cydbwysedd y breichiau a'r asgwrn cefn. Gelwir y math hwn yn asana gwrthdro ac yn asana cydbwyso.[1][2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Cerflun o Ganesha o'r 20g yn Pincha Mayurasana

Daw enw'r ystum hwn o'r Sansgrit वृश्चिक vrschika, "scorpion", ac आसन āsana, "osgo neu siap (y corff)".[3] Mae Pincha (Sansgrit पिञ्च Piñcha) yn golygu pluog.

Nid yw'r ystum hwn i'w gael mewn testunau ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir yn llawlyfrau'r 20g fel Light on Yoga.[4]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Ceir ystum tebyg, Pincha Mayurasana (Y Paen Pluog), lle cydbwysa'r y corff ar y breichiau, gyda'r corff wedi'i godi a'r coesau'n syth gan ymdebygu i blu agored y paun. Gelwir ei ystum paratoadol yn Ardha Pincha Mayurasana (y Dolffin).

Enw'r amrywiad lle ceir y dwylo'n unig ar y llawr, yn hytrach na'r elinau yw Ganda Bherundasana.[5] Trafodir ffurfiau cydbwysedd y breichiau a'r dwylo fel amrywiadau o'r ystum hwnclasur Light on Yoga.[3][6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Vrschikasana". Yogapedia. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2018.
  2. Sherman, Diane. "mastering the scorpion pose - 6 easy steps to vrschikasana". Yogi Times. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2018.
  3. 3.0 3.1 Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The book of yoga. Ebury. tt. 104-105, 162–163. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  4. Iyengar, B. K. S. (1991) [1966]. Light on Yoga. Thorsons. tt. 386–388. ISBN 978-0-00-714516-4. OCLC 51315708.
  5. Arch, Liz (4 April 2018) [2016]. "Challenge Pose: Ganda Bherundasana (Formidable Face Pose)". Yoga Journal.
  6. YJ Editors; Budig, Kathryn (1 Hydref 2012). "Kathryn Budig Challenge Pose: Scorpion in Forearm Balance". Yoga Journal. https://www.yogajournal.com/practice/vrischika-in-pincha-mayurasana.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]