Upavistha Konasana (Eistedd ar Led)

Oddi ar Wicipedia
Upavistha Konasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana Indiaidd a ddefnyddir mewn ioga yw Upaviṣṭa Koṇāsana (Sansgrit उपविष्टकोणासन), neu Upavistha Konasana neu "Eistedd ar Led[1][2], sydd fel mae'r gair yn ei awgrymu yn asana eistedd mewn

Yn y safle hwn mae'r iogi yn eistedd i fyny gyda'r coesau mor agored ag y bo modd a'r torso'n pwyso ymlaen.[3]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw enw'r asana (neu ystym, osgo) o'r Sansgrit उपविष्ट (upaviṣṭa) sy'n golygu "agored", कोण (koṇa) sy'n golygu "ongl", ac आस (āsana), sy'n golygu "osgo neu siap (y corff)".[3]

Nid yw'r osgo arbennig yma i'w gael mewn ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir yn y clasur Light on Yoga 1966.[4] Fe'i disgrifir yn annibynnol o dan enw gwahanol, Hastapadasana (Saesneg gwreiddiol: "Hand-to-Foot Pose"[a]) yn y Llyfr Ioga Cyflawn Darluniadol (1960) mae Swami Vishnudevananda, yn awgrymu tarddiad hŷn na'r 20g.[5]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Cyn pwyso ymlaen

Gellir mynd i mewn i'r asana yma o dandasana (Y Ffon) trwy i'r coesau bellau oddi wrth ei gilydd, cymaint ag y gellir. Yna gellir gafael ym modiau'r traed gyda'r dwylo, neu gyda gwregys (neu strap) o amgylch pob troed, fel cymorth. Mae'r cefn yn fwaog ysgafn, trwy godi cwtyn y cynffon (y cocsycs), ac mae'r corff yn gogwyddo ymlaen.[2][3][4][6] Yn yr asana gorffenedig, mae'r corff yn pwyso ymlaen nes bod yr ên a'r trwyn yn cyffwrdd â'r ddaear.[3] Gall pobl na allant eistedd ar y llawr mewn dandasana eistedd ar flanced wedi'i phlygu ar gyfer yr ystum.[1]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae Parsva Upavistha Konasana, yn amrywiad ochr, gyda'r corff yn wynebu un goes, a'r dwylo ill dau yn gafael ar droed y goes honno, heb godi'r glun gyferbyn.[7]

Urdhva Upavistha Konasana

Mae Urdhva Upavistha Konasana, yn debyg i Ubhaya Padangusthasana ond gyda'r coesau ar led. Mae'r bys a bawd yn gafael ym modiau'r traed, y coesau'n llydan agored, yn gwbwl syth, ac wedi'u codi i uchder y pen; mae'r corff yn gwyro'n ôl ychydig i gydbwyso. Gellir ymarfer yr osgo gyda strap neu wregys, o amgylch pob troed os na ellir sythu'r coesau'n llawn yn y safle; gellir hefyd osod blanced wedi'i rowlio y tu ôl i'r pen-ôl i gynorthwyo gyda chydbwyso.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Rosen, Richard (28 Awst 2007). "Wide-Angle Seated Forward Bend". Yoga Journal. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2018.
  2. 2.0 2.1 "Wide-Angle Seated Forward Bend - Upavishta Konasana". Ekhart Yoga. 2018. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Mehta, 1990 p. 65
  4. 4.0 4.1 Iyengar, 1979, pp. 163–165
  5. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. t. 88. ISBN 81-7017-389-2.
  6. Botur, Amanda. "Wide-Angle Seated Forward Bend • Upavistha Konasana". Yoga Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-19. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018.
  7. "Parsva Upavistha Konasana (Side Seated Wide Angle Pose)". Yoga Vastu. Cyrchwyd 25 Mehefin 2021.
  8. "Upward Facing Wide-Angle Seated Pose - Urdhva Upavistha Konasana". Ekhart Yoga. Cyrchwyd 25 Mehefin 2021.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>