Utthita Vasisthasana (Ochr Astell)

Oddi ar Wicipedia
Utthita Vasisthasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas cydbwyso Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Utthita Vasisthasana (a dalfyrrir weithiau i Vasisthasana) neu Ochr Astell. Asana cydbwyso ydyw ac mae i'w gael mewn ymarferiadau mewn ioga modern fel ymarfer corff. Ystyr y gair astell yw planc.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw enw'r ystum o'r Sansgrit उत्थित Utthita estynedig, वसिष्ठ Vasiṣṭha, doethor,[1] a आसन āsana, "osgo" neu "siap y corff".[2][3]

Nid yw'r asana hwn yn cael ei ddisgrifio yn y testunau ioga hatha canoloesol. Mae'n ymddangos yn yr 20g yn Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[4]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae Camatkarasana (Y Peth Gwyllt) (o Sanskrit चमत्कार camatkār, gwyrth) yn cadw'r rhan fwyaf o bwysau'r corff ar un droed a llaw ar yr un ochr, gan godi'r penelin arall uwch y pen, tro'r fraich, a'r droed arall y tu ôl i'r pen-glin, felly mae'r corff yn wynebu'r ochr ac ychydig i fyny.[5][6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken Books. tt. 309–311.
  2. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  3. "Extended Side Plank | Utthita Vasiṣṭhāsana". Pocket Yoga. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2018.
  4. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–101. ISBN 81-7017-389-2.
  5. Copham, K. Mae (19 Mai 2016). "5 Downward Dog Variations To Tone Your Whole Body". Mind Body Green.
  6. Buchanan, Jacqueline. "4 Variations for Downward-Facing Dog Pose". Do You Yoga. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2019.