Ioga ashtanga vinyasa
Efallai bod yr enw ioga ashtanga wedi'i gymeryd o enw'r asana Ashtanga Namaskara, osgo tebyg i'r asana Surya Namaskar a welir yma | |
Math | ioga |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arddull neu ysgol o ioga yw Ioga Ashtanga Vinyasa, sydd hefyd yn ymarfer corff a boblogeiddiwyd gan K. Pattabhi Jois yn ystod yr 20g; yn aml, fe'i hyrwyddwyd fel ffurf modern o ioga Indiaidd clasurol.[1] Honnodd Jois ei fod wedi dysgu'r system gan ei athro, Tirumalai Krishnamacharya. Mae'r arddull yn egnïol ac yn cydamseru anadl â symudiad. Mae'r ystumiau unigol (a elwir yn asanas) yn cael eu cysylltu a'i gilydd drwy symudiadau'n llifo o un i'r llall (Vinyāsa), mewn cyfres[2]
Sefydlodd Jois 'Sefydliad Ymchwil i Ioga Ashtanga' yn 1948.[3] Gelwir y dull presennol o addysgu yn arddull Mysore ar ôl y ddinas yn India lle dysgwyd yr ymarfer yn wreiddiol.[4] Mae ioga ashtanga vinyasa wedi arwain at wahanol arddulliau o Ioga Llawn Egni (Power Yoga).
Agwedd
[golygu | golygu cod]Disgwylir i fyfyrwyr Ioga Ashtanga Vinyasa ddysgu dilyniant o asanas ac ymarfer yn yr un ystafell ag eraill heb gael eu harwain gan yr athro. Rôl yr athro yw arwain yn ogystal â darparu addasiadau neu gynorthwyo ystumiau. Mewn lleoliadau eraill, addysgir dosbarthiadau ddwywaith yr wythnos yn lle dosbarthiadau arddull Mysore, a bydd yr athro'n arwain grŵp trwy'r un gyfres ar yr un pryd. Dim ond ym mlynyddoedd hŷn K. Pattabhi Jois y cyflwynwyd y dosbarthiadau dan arweiniad.[5][6]
Dilyniannau a chyfresi
[golygu | golygu cod]Fel arfer mae ymarfer Ashtanga Vinyasa o asanas yn dechrau gyda phum ailadroddiad o Surya Namaskara (Cyfarchiad i'r Haul) A a phum ailadrodd o Surya Namaskara B, ac yna dilyniant sefyll. Yn dilyn hyn mae'r ymarferwr yn symud ymlaen trwy un o chwe chyfres, ac yna dilyniant safonol, clo.
Y chwe chyfres yw:
- Y gyfres Gynradd: Yoga Chikitsa, Ioga ar gyfer Iechyd neu Therapi Ioga[7]
- Y gyfres Ganolradd: Nadi Shodhana, 'Y Purwr Nerfau' (ac a elwir hefyd yn Ail gyfres)
- Y gyfres Uwch: Sthira Bhaga, Canoli Cryfder
- Uwch A, neu'r Drydedd gyfres
- Uwch B, neu'r Bedwaredd gyfres
- Uwch C, neu'r Bumed gyfres
- Uwch D, neu'r Chweched cyfres[8]
Yn wreiddiol roedd pedair cyfres ar faes llafur Ashtanga Vinyasa: Cynradd, Canolradd, Uwch A, ac Uwch B. Pumed cyfres oedd y "gyfres Rishi", y dywedodd Pattabhi Jois y gellid ei wneud unwaith y byddai ymarferwr wedi "meistroli'r" pedair hyn.[9][10]
Dull cyfarwyddo
[golygu | golygu cod]Yn ôl ŵyr Pattabhi Jois, R. Sharath Jois, rhaid meistroli'r asanas cyn cael caniatâd i roi cynnig ar eraill sy'n dilyn.[11] Fodd bynnag, anghytunodd mab Pattabhi Joi, Manju Jois, gan ddweud y gall myfyrwyr yn achlysurol ymarfer mewn fformat aflinol (heb fod mewn trefn bendant).[12][13][14]
Yn yr 21g, mae "cenhedlaeth newydd" o athrawon ioga Ashtanga vinyasa wedi mabwysiadu rheolau newydd Sharath, gan addysgu mewn arddull llinol heb amrywiadau. Mae'r ymarfer yn digwydd mewn amgylchedd 'Mysore caeth' o dan arweiniad athro sydd wedi'i gymeradwyo gan Sharath. Nid yw fideos a gweithdai hyfforddiant ac ymarferion adeiladu cryfder yn rhan o'r dull, nid ar gyfer yr ymarferwr na'r athro.[11] Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o athrawon sy'n honni iddynt gael eu haddysgu gan Sharath yn addysgu'r dulliau, yr ymarferion a'r ystumiau uchod.[11]
Egwyddorion
[golygu | golygu cod]Mae ioga ashtanga vinyasa yn pwysleisio rhai prif gydrannau, sef tristhana ("tri lle o weithredu neu sylw", neu agweddau mwy corfforol yr asanas) a Vinyāsa sy'n cael wei diffinio gan Sharath Jois fel system anadlu a symud.[15]
Llafarganu agoriadol
[golygu | golygu cod]Mae arfer Ashtanga yn cael ei gychwyn yn draddodiadol gyda llafarganu Sansgrit i Patanjali:[16]
Sansgrit | Cyfieithiad |
---|---|
vande gurūṇāṁ caraṇāravinde saṁdarśita-svātma-sukhāvabode niḥśreyase jāṅ̇galikāyamāne saṁsāra-hālāhala-mohaśāntyai âbāhu puruṣākāraṁśaṅ̇kha-cakrāsi-dhāriṇam sahasra-śirasaṁ śvetampraṇamāmi patañjalim |
Rwy'n ymgrymu i draed lotus y gurus, Datgelodd deffro hapusrwydd eich hunan-hunan, y tu hwnt i well, yn ymddwyn fel meddyg y jyngl, gan dawel, gwenwyn Samsara. Gan gymryd ffurf dyn i'r ysgwyddau, yn dal conch, disgen, a chleddyf,mMil o bennau gwyn,I Patanjali, yr wyf yn cyfarch. |
ac yn cloi gyda'r "mangala mantra" (Lokaksema).[16]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Wyth cangen cynllun Patanjali yw Yama, Niyama, Asana, Pranayama, Pratyahara, Dharana, Dhyana, a Samadhi.[18] Cred Jois oedd bod yn rhaid ymarfer asana, y drydedd gainc, yn gyntaf, a dim ond ar ôl hynny y gallai person feistroli'r saith cangen arall.[19] Fodd bynnag, mae'n bosibl bod yr enw Ashtanga yn nefnydd Jois yn deillio o'r hen enw Surya Namaskar yn y system o ymarferion gymnasteg dand, sef Ashtang dand, ar ôl un o'r asanas gwreiddiol yn y dilyniant, Ashtanga Namaskara (yn cael ei ddisodli bellach gan Chaturanga Dandasana), lle mae 8 rhan o'r corff i gyd yn cyffwrdd â'r ddaear, yn hytrach na yoga Patanjali.[17]
Traddodiad
[golygu | golygu cod]Mae llawer o ddadlau dros y term "traddodiadol" fel y'i cymhwysir i Ioga Ashtanga. Nododd myfyrwyr y sylfaenydd fod Jois wedi addasu'r dilyniant yn rhydd i weddu i'r ymarferydd.[20] Mae rhai o'r gwahaniaethau yn cynnwys adio neu dynnu asana yn y dilyniannau, newidiadau i'r vinyasa (vinyasa llawn a hanner),[21][22][23] anodir asanas penodol ar gyfer pobl unigol.[20][24]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ashtanga Yoga Background". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2011-08-20.
- ↑ "Ashtanga Yoga". Yoga Journal. Cyrchwyd 19 Mai 2019.
- ↑ Lewis, Waylon (18 Mehefin 2009). "Pattabhi Jois, Founder of Ashtanga Yoga, Passes Away at Age 93". Huffington Post.
- ↑ "Mysore Style". Jois Yoga. 2013-02-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-08. Cyrchwyd 2019-03-07.
- ↑ "Mysore Style". Mysorestyle.ie. 7 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-05. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ YJ Editors (12 April 2017). "Style Profile: Ashtanga Yoga". Yoga Journal.
- ↑ "Ashtanga Primary Series list". Yogateket. Yogateket. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
- ↑ "AYI.info - The International Ashtanga Yoga Information Page". Ashtangayoga.info. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ "Articles by Nancy – House of Yoga and Zen". House of Yoga and Zen. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ "Ashtanga Yoga Therapy | Biography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Jois 2013.
- ↑ Clark, Richard (7 Chwefror 2005). "Manju Jois". Australian Yoga Life (12): 42–45. http://static1.1.sqspcdn.com/static/f/477116/5091764/1261014095430/Manju_Jois.pdf?token=%2BVAJGlnrwmABlUKlnr5OWV8el1E%3D. Adalwyd 2022-01-06.
- ↑ "Manju Jois Mini Interview". Loveyogaanatomy.com. 24 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-23. Cyrchwyd 26Tachwedd 2018.
- ↑ "Ashtanga Yoga Shala NYC - Manju Jois - New York 2000". Aysnyc.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-24. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ "THE PRACTICE | SHARATH JOIS". sharathjois.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2019. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.
- ↑ 16.0 16.1 "SHARATH JOIS". KPJAYI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-10. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ 17.0 17.1 Singleton 2010, tt. 175–210
- ↑ Scott, John. Ashtanga Yoga: The Definitive Step-by-Step Guide to Dynamic Yoga. New York: Three Rivers Press, 2000. pp. 14–17.
- ↑ "Sharath Jois". KPJAYI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-08. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ 20.0 20.1 "Who has done all of the Ashtanga series? Does it matter?". 5 Ionawr 2012. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ "Ashtanga.com Articles: Tim Miller Interview by Deborah Crooks". Ashtanga.com. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ "Ashtanga Yoga Shala NYC - On Practice". Ashtanga Yoga Shala. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2018.
- ↑ Lino Miele, Astanga Yoga Book - The Yoga of Breath
- ↑ "Reflections on "Guruji: A Portrait" - Interview with Elise Espat - Part III". Mind Medicine. 8 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2015. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Jois, K. Pattabhi (2002) [1962]. Yoga Mala (yn Kannada). New York: North Point Press. ISBN 978-0-86547-662-2. OCLC 50567767.
- Jois, R. Sharath (2013). Aṣṭāṅga yoga anuṣṭhana. Mysore, India: KPJAYI Mysore. ISBN 978-93-5126-302-9. OCLC 883428674.
- Krishnamacharya, Tirumalai (2006) [1934]. Yoga Makaranda. Cyfieithwyd gan Lakshmi Ranganathan; Nandini Ranganathan.
- Singleton, Mark (2010). Yoga Body : the origins of modern posture practice. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Jois, Sri K. Pattabhi (2005). Sūryanamaskāra. New York: Ashtanga Yoga.
- Maehle, Gregor (2006). Ashtanga Yoga: Practice and Philosophy. Doubleview, Western Australia: Kaivalya Publications. ISBN 978-0-9775126-0-7. OCLC 71245040.
- Miele, Lino (1994). Astanga Yoga: Including the Benefits of Yoga Chikitsa; I & II Series. Rome, Italy: Lino Miele.
- Scott, John (2000). Ashtanga Yoga: The Definitive Step-By-Step Guide to Dynamic Yoga. Stroud: Gaia Books. ISBN 978-1-85675-181-0. OCLC 44693722.
- Swenson, David (1999). Ashtanga Yoga: The Practice Manual. Austin, Texas: Ashtanga Yoga Productions. ISBN 978-1-891252-08-2. OCLC 65221561.