Hanumanasana (Y Mwnci)

Oddi ar Wicipedia
Hanumanasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ymarferion ioga yw Hanumanasana (Sansgrit: हनुमानासन) neu'r Mwnci.[1] Gelwir y math hwn o osgo yn asana eistedd, neu asana anghymesur mewn ioga modern ac ymarfer corff. Dyma'r fersiwn ioga o'r hyn a elwir mewn gymnasteg yn hollt flaen (front splits).

Hanumanasana ychydig yn wahanol

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit Hanuman (endid dwyfol mewn Hindŵaeth sy'n ymdebygu, o ran pryd a gwedd, i fwnci) ac asana (osgo person),[2] ac mae'n coffau'r naid anferth a wnaeth Hanuman i gyrraedd ynysoedd Lanca o dir mawr India.[3]

Nid yw'r ystum yn cael ei ddisgrifio yn y testunau hatha yoga canoloesol. Mae'n ymddangos yn yr 20fed ganrif mewn traddodiadau amrywiol o ioga modern , megis yn Camau Cyntaf i Ioga Uwch Swami Yogesvarananda ym 1970,[4] yn Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois,[4] yn yr Asana Pranayama Mudra Bandha, gan Swami Satyananda Saraswati (2003)[5] ac yn Light on Yoga (1966) gan BKS Iyengar.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Samakonasana, y ffurf ioga o holltau ochr
  • Rhestr o safleoedd ioga

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Yoga Journal - Monkey Pose". Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  3. Mead, Jean (2008). How and Why Do Hindus Celebrate Divali?. Evans Brothers. tt. 10–. ISBN 978-0-237-53412-7.
  4. 4.0 4.1 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. t. 96. ISBN 81-7017-389-2.
  5. Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. tt. 340–341. ISBN 978-81-86336-14-4.
  6. Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. tt. 352–354. ISBN 978-1855381667.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]