Shirshasana

Oddi ar Wicipedia
Shirshasana
Enghraifft o'r canlynolasana, pensefyll Edit this on Wikidata
Mathasanas gwrthdro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana neu ystym corfforol yw Shirshasana neu Salamba Shirshasana ('pensefyll mewn ioga'), sy'n asana gwrthdro mewn ioga modern fel ymarfer corff; fe'i disgrifir fel asana a mwdra mewn ioga hatha clasurol, dan wahanol enwau. Gelwir yr asana hwn, weithiau, yn "frenin pob asana".

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Pensafiad (wedi'i labelu fel Kapālī Āsana) o lawysgrif o'r 1830 o'r enw Joga Pradīpikā[1]

Daw'r enw Salamba Shirshasana o'r geiriau Sansgrit सालम्ब Sālamba sy'n golygu "cefnogi", शीर्ष, Śīrṣa sy'n golygu "pen",[2] ac आसन, Āsana sy'n golygu "ystym corfforol".[3]

Mae'r enw Shirshasana (Śīrṣāsana) yn gymharol ddiweddar - yn fwy diweddar na'r ystym ei hun, ond arferid ei adnabod gydag enwau eraill.

Fel asanas gwrthdro eraill, arferid ei galw'n Viparita Karani, a ddisgrifiwyd fel mwdra yn yr Ioga Hatha Pradipika a thestunau clasurol eraill ar ioga haṭha.[4]

Mae Yogaśāstra o'r 11g yn ei enwi'n Duryodhanāsana ("ac yn Kapālīkarana ("techneg pen").[5] Mae'r Malla Purana, llawlyfr o'r 13g ar gyfer reslwyr, caiff ei henwi, ond ni chaiff ei disgrifio.[6] Mae'r Joga Pradīpikā o'r 18g yn ei alw'n Kapālī āsana, ("asana'r pen"), lle mae'n rhif 17 o'r set o 84 asanas a ddisgrifir ac a ddarlunnir yno,[1] tra bod y Sritattvanidhi o'r 19g yn defnyddio'r enw Śīrṣāsana yn ogystal â Kapālāsana.[6]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Urdhva Padmasana yn Shirshasana

Mae gan Shirshasana lawer o amrywiadau, gan gynnwys:

Trawslythreniad Saesneg Delwedd
Salamba Shirshasana 2 Pensafiad 2 (cledrau'r dwylo ar i lawr, lled ysgwydd) [1]
Salamba Shirshasana 3 Pensafiad 3 (cledrau'r dwylo ar i lawr, o flaen yr wyneb) [2]
Baddha Hasta Shirshasana Pensafiad, gyda'r dwylo'n glwm [3]
Baddha Konasana Shirshasana Osgo ongl Clwm, gan Bensefyll [4]
Dvi Pada Viparita Dandasana Pensefyll a Phlygu'r cefn [7]
Eka Pada Shirshasana [a] Pensefyll Coes Sengl [5]
Mukta Hasta Shirshasana Pensefyll Dwylo'n Rhydd [6]
Parivrttaikapada Shirshasana Pensefyll Coes Sengl ar Dro [7]
Parshva Shirshasana Pensefyll Ochr [8]
Parshvaikapada Shirshasana Pensefyll Coes Sengl [9]
Upavistha Konasana Shirshasana Pensefyll ar Ongl tra'n Eistedd [10]
Urdhva Padmasana yn Shirshasana Pensefyll Lotus ar i fyny [11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Bühnemann, Gudrun (2007). Eighty-Four Asanas in Yoga: A Survey of Traditions. New Delhi: D. K. Printworld. tt. 47, 151. ISBN 978-8124604175.
  2. "Shirshasana A - AshtangaYoga.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-06. Cyrchwyd 2011-04-11.
  3. Sinha, S. C. (1 June 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Hatha Yoga Pradipika III.7
  5. Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. t. 104. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
  6. 6.0 6.1 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. tt. 56–57, plate 6 (asana 31) and note 89, page 67. ISBN 81-7017-389-2.
  7. Iyengar, B. K. S. (1970). Light on yoga: yoga dīpikā. Schocken Books. tt. 373–377. ISBN 9780805203530.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>