Vriksasana (Y Goeden)
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Vriksasana (Sansgrit: वृक्षासन; Rhufeiniad: vṛkṣāsana) neu osgo'r Goeden[1], sy''n cael ei nodi fel asana cydbwyso. Mae'n hynafol iawn ac yn un o'r ychydig o asanas sefyll mewn ioga hatha canoloesol, ac mae'n parhau i fod yn boblogaidd mewn ioga modern fel ymarfer corff.[2]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit vṛkṣa (वृक्ष) sy'n golygu "coeden",[3] ac āsana (आसन) sy'n golygu "osgo'r corff".[4]
Mae'n ymddangos bod cerfiad carreg o'r 7g ym Mahabalipuram yn cynnwys ffigwr sy'n sefyll ar un goes, ac mwy na thebyg fod hyn yn dynodi bod ystum tebyg i vrikshasana yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Dywedir i'r bobl crefyddol a elwiryn sadhus ddisgyblu eu hunain trwy ddewis myfyrio yn yr ystum.[5]
Disgrifir yr asana hwn yn nhestun Gheraṇḍa Saṃhitā 2.36 yn yr 17g. Yn fwy diweddar fe'i galwyd yr asana'n eicon symbolaidd iawn o ioga modern fel ymarfer corff; mae'n cael sylw'n aml mewn cylchgronau ioga, ac yn cael ei ymarfer mewn arddangosfeydd cyhoeddus fel ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Ioga.[6][7][8]
Amrywiadau
[golygu | golygu cod]Yn Ioga Bikram, mae Vriksasana (a elwir yn "Tadasana" yn y math yma o ioga) yn asana sefyll ychydig yn wahanol, gydag un goes wedi'i phlygu yn Padmasana (osgo'r lotws) a'r dwylo gyda'i gilydd dros y frest mewn safle gweddi. Fe'i dilynir gan blygu'r goes syth i safle sgwatio (a elwir yn "Padangustasana" yn Ioga Bikram) gyda'r sawdl wedi'i godi a'r glun yn gorffwys ar y ffer a'r sawdl, a'r goes arall mewn hanner Padmasana.[9]
-
Gweinidog Mewnol y Llywodraeth, Kiren Rijiju, mewn sesiwn o ioga cyhoeddus
-
Cerflun o Vrikshasana; top chwith[5]
-
Grwp o iogis y tu allan
-
Amrywiad, gydag un goes mewn Padmasana
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Iyengar, B.K.S. (1979). Light on Yoga (arg. Revised). Schocken Books. ISBN 978-0-8052-1031-6.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tree Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ "Urdhva Vrikshasana - AshtangaYoga.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-23. Cyrchwyd 2011-04-11.
- ↑ Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ 5.0 5.1 Krucoff, Carol (28 Awst 2007). "Find Your Roots in Tree Pose". Yoga Journal.
- ↑ Mulcahy, Matt. "Tree Pose (Vrksasana)". Om Yoga & Lifestyle Magazine. Cyrchwyd 19 December 2021.
An iconic standing balance that draws its roots from hatha yoga, tree pose remains popular in modern practice and offers an exploration of hip-opening capacity.
- ↑ Budig, Kathryn (11 December 2012). "How to Do a Yoga Tree Pose". Women's Health Magazine. Cyrchwyd 19 December 2021.
It’s an iconic posture that symbolizes balance and harmony.
- ↑ Kristlova, Eva (14 Mehefin 2020). "Quick Standing Sequence". Yoga Alliance. Cyrchwyd 19 December 2021.
From here we enter one of the most iconic yoga poses – Tree Pose.
- ↑ "The 26 Bikram Hot Yoga Postures". Sadhana Yoga & Wellbeing. Cyrchwyd 9 Mai 2019.