Ardha Candrasana (Hanner Lleuad)
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd, ioga Hatha, asanas ymlaciol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o asana tro yn ioga hatha yw Ardha Matsyendrasana, sy'n fersiwn o Matsyendrasana. Mae gan yr asama yma dzair fersiwn ei hun, a elwir yn Ardha Matsyendrasana l i lll.[1] Ei enw Cymraeg yw Hanner Arglwydd y pysgod. Asana tro yw'r math yma, ac mae'n un o'r deuddeg asana a restri o fewn ioga Hatha.[2][3]
Mae'r asana yn ganoloesol, ac fe'i disgrifir yn y 15g yn yr Ioga Haṭha Pradīpikā 1.26-7, sy'n nodi ei fod yn dinistrio llawer o afiechydon, ac eilwaith yn y 17g mewn testun o'r enw Gheraṇḍa Saṃhitā 2.22-23.[4]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit परिपूर्ण Paripurna, sef wedi'i berffeithio; मत्स्येन्द् Matsyendra, un o sylfaenwyr hatha yoga, y mae ei enw yn ei dro'n golygu "Arglwydd y pysgod"; ac आसन asana, osgo neu safle'r corff; Ystyr अर्ध ardha yw hanner.[5] अर्ध ardha means half.[2][3][6][7]
Amrywiadau
[golygu | golygu cod]Mae gan Ardha Matsyendrasana II un goes yn syth allan ar y llawr, a'r llall wedi plygu fel ar gyfer Padmasana; mae'r llaw ar ochr y goes wedi'i phlygu yn gafael y tu allan i'r goes estynedig, ac mae'r llaw arall yn cyrraedd rownd y cefn i afael yng nghroth y goes sydd wedi plygu.[8][8][8]
Mae Ardha Matsyendrasana III yn dilyn Ardha Matsyendrasana I. Mae'r goes waelod yn symud i mewn i Padmasana, ac mae'r breichiau'n plethu drwy'i gilydd trwy afael yn y ddwy droed.[8]
Ar gyfer yr amrywiad lledorwedd, Supta Matsyendrasana, gan ddechrau o wastad y cefn, dylid ymestyn y breichiau ar led, ar lefel ysgwydd, plygu un pen-glin a'i gylchdroi (a'r cluniau) ar draws, ac i'r ochr arall.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Half Spinal Twist - Ardha-Matsyendrasana". Hatha Yoga. Advaita Yoga Ashrama. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2013. Cyrchwyd 6 Mai 2013.
- ↑ 2.0 2.1 "Half Lord of the Fishes Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ 3.0 3.1 "Yoga poses, Ardha Matsyendrasana, Half Spinal Twist". Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. t. 109. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
- ↑ Long, Ray (2011). Yoga Mat Companion 3: Anatomy for Backbends and Twists. Greenleaf. t. 162. ISBN 978-1-60743-944-8.
- ↑ Iyengar 1979, t. 273.
- ↑ Maehle, Gregor; Gauci, Monica (November 2009). Ashtanga Yoga - The Intermediate Series: Mythology, Anatomy, and Practice. New World Library. t. 43. ISBN 978-1-57731-669-5.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 Iyengar 1979, tt. 259–262, 270-273.
- ↑ "Supine Spinal Twist | Supta Matsyendrasana". Yoga Basics. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.