Ysgwydd
Gwedd

| Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | subdivision of pectoral girdle, endid anatomegol arbennig |
| Rhan o | aelod uchaf |
| Cysylltir gyda | gwregys pectoral, gwddf |
| Dynodwyr | |
Mewn anatomeg ddynol, yr ysgwydd ydy'r rhan lle mae'r uwchelin (hwmerws) yn cysylltu â'r balfais (sgapwla) gan ffurfio cymal. Clwstwr o ffurfiadau yn yr ardal yma, felly, ydy'r ysgwydd. Rhan ucha'r ysgwydd, sy'n cysylltu â'r gwddf ydy pont yr ysgwydd (claficl) i ddefnyddio geirfa arferol anatomi.
Mae'n rhaid i'r ysgwydd fedru amrywio cyfeiriad y fraich mewn cylch o 360 gradd; ond yn fwy na hyn (ac yn wahanol i'r penelin), mae'n rhaid iddo fod yn aruthrol o gryf i dynnu, gwthio a chodi pethau trwm. Oherwydd y grymoedd o gyfeiriadau gwahanol a'r pwysau aruthro yma ar yr ysgwydd, mae llawer o bobl yn cael problemau meddygol gyda'r ysgwydd.