Moscfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Enw amgen: Mosgo yn ôl Geiriaur yr Academi; defnyddir yn helaeth ar y we
Llinell 20: Llinell 20:


[[Delwedd:St Basils Cathedral-500px.jpg|bawd|de|300px|Eglwys Gadeiriol Sant Basil, Moscfa]]
[[Delwedd:St Basils Cathedral-500px.jpg|bawd|de|300px|Eglwys Gadeiriol Sant Basil, Moscfa]]
Prifddinas [[Rwsia]] yw '''Moscfa''' (hefyd: '''Moscow''' neu '''Mosgow'''; ''Москвá'', sef ''Moscfa'' yn [[Rwsieg]]). Mae tua 11.2 miliwn o bobl yn byw yn y ddinas ([[2004]]) ac mae ei phoblogaeth yn cynyddu bron bob dydd. Mae'r dref ar lan [[Afon Moscfa]] a thua 878.7 km sgwar o arwynebedd.
Prifddinas [[Rwsia]] yw '''Moscfa''' (hefyd: '''Moscow, Mosgo''' neu '''Mosgow'''; ''Москвá'', sef ''Moscfa'' yn [[Rwsieg]]). Mae tua 11.2 miliwn o bobl yn byw yn y ddinas ([[2004]]) ac mae ei phoblogaeth yn cynyddu bron bob dydd. Mae'r dref ar lan [[Afon Moscfa]] a thua 878.7 km sgwar o arwynebedd.


Lleolir Moscfa yn nhalaith [[Canol Rwsia]] yn Rwsia Ewropeaidd. Prifddinas yr [[Undeb Sofietaidd]] oedd hi gynt a hefyd o [[Muscovy]], gwladwriaeth Rwsiaidd fodern gyntaf, cyn sefydliad [[Ymerodraeth Rwsia]]. Mae'r [[Kremlin Moscfa|Kremlin]], sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia, a'r [[Sgwâr Coch]] yn Moscfa.
Lleolir Moscfa yn nhalaith [[Canol Rwsia]] yn Rwsia Ewropeaidd. Prifddinas yr [[Undeb Sofietaidd]] oedd hi gynt a hefyd o [[Muscovy]], gwladwriaeth Rwsiaidd fodern gyntaf, cyn sefydliad [[Ymerodraeth Rwsia]]. Mae'r [[Kremlin Moscfa|Kremlin]], sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia, a'r [[Sgwâr Coch]] yn Moscfa.

Fersiwn yn ôl 18:37, 28 Gorffennaf 2017

Moscfa
Lleoliad yn Rwsia
Gwlad Rwsia
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 11503501 (Cyfrifiad 2010)
Dwysedd Poblogaeth 4581.24 /km2
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser MSK (UTC+3)
Gwefan http://www.mos.ru
Eglwys Gadeiriol Sant Basil, Moscfa

Prifddinas Rwsia yw Moscfa (hefyd: Moscow, Mosgo neu Mosgow; Москвá, sef Moscfa yn Rwsieg). Mae tua 11.2 miliwn o bobl yn byw yn y ddinas (2004) ac mae ei phoblogaeth yn cynyddu bron bob dydd. Mae'r dref ar lan Afon Moscfa a thua 878.7 km sgwar o arwynebedd.

Lleolir Moscfa yn nhalaith Canol Rwsia yn Rwsia Ewropeaidd. Prifddinas yr Undeb Sofietaidd oedd hi gynt a hefyd o Muscovy, gwladwriaeth Rwsiaidd fodern gyntaf, cyn sefydliad Ymerodraeth Rwsia. Mae'r Kremlin, sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia, a'r Sgwâr Coch yn Moscfa.

Lleolir y dref yn yr ardal ranbarthol a enwir Canol Rwsia sydd mewn gwirionedd yng ngorllewin Rwsia. Roedd hi'n brif ddinas yr Undeb Sofietaidd a hefyd o Muscvy y Rwsia cyn-ymerodraethol. Mae'r Kremlin sy'n gwasanaethu fel safle y llywodraeth genedlaethol wedi ei leoli yn y ddinas.

Hanes

Cyfeirir at y dref mewn dogfennau am y tro cyntaf ym 1147. Ar y pryd roedd hi'n dref fechan, ond ym 1156 adeiladwyd mur pren a ffos o gwmpas y dref gan y tywysog Yury Dolgoruky. Er hynny, llosgwyd y dref a lladdwyd ei phobl ym 1177. Rhwng 1237 a 1238 meddiannodd y Mongoliaid y dref a'i llosgi a llofruddio'i thrigolion unwaith eto. Ar ôl y cyfnod hwnnw, cryfhaodd y dref eto a daeth yn brifddinas tywysogaeth annibynnol.

Ym 1300 roedd y Tywysog Daniel, mab Alexander Nevsky yn rheoli'r dref mewn enw, ond roedd y dref o dan reolaeth y Mongoliaid mewn gwirionedd. Fodd bynnag, roedd nerth Ymerodraeth Lithiwania yn cynyddu ac - er mwyn gwrthbwyso hynny - rhoddodd Khan y Mongoliaid rym arbennig i Moscow. Fel hynny, cyfododd Moscow i fod yn un o'r drefi fwyaf nerthol yn Rwsia.

O 1480 ymlaen, dan reolaeth Ifan III, roedd Rwsia yn wlad annibynnol ac yn tyfu i fod yn ymerodraeth fawr a oedd yn cynnwys Rwsia, Siberia a nifer o ardaloedd eraill. Er bod nifer o tsariaid, er enghraifft Ifan yr Ofnadwy, yn ormeswyr, parheai'r ymerodraeth i dyfu.

Ym 1571, cipiodd Tartariaid Crimea, dan Ymerodraeth yr Otomaniaid, y dref a'i llosgi. Rhwng 1605 a 1612 meddianai lluoedd Gwlad Pwyl y dref. Bwriad y Pwyliaid oedd sefydlu llywodraeth newydd yn Rwsia gyda chysyltiad cryf â Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, gwrthryfelodd mawrion Rwsia yn erbyn Gwlad Pwyl yn 1612, ac yn 1613 daeth Michael Romanov yn tsar ar ôl etholiad. Fel hynny dechreuodd hanes y deyrnlin Romanov.

Roedd Moscow yn brifddinas Rwsia cyn sefydlu St Petersburg ar lan y Môr Baltig gan Pedr Fawr yn 1700.

Ym 1812 ceisiodd Napoleon oresgyn Rwsia a llosgodd trigolion Moscow eu dinas eu hynain ar 14 Medi 1812 a ffoi ohoni. Ond bu rhaid i luoedd Napoleon adael y ddinas oherwydd y tywydd eithafol o oer a phrinder bywyd.

Ers Chwyldro Rwsia ym 1917 Moscow yw prifddinas Rwsia. Symudodd llywodraeth Lenin i'r ddinas ar 5 Mawrth, 1918.

Ym mis Mehefin 1941, ymosododd lluoedd yr Almaen ar Rwsia (Ymgyrch Barbarossa) ac anelodd un o'r dair adran y fyddin am Moscow. Ar ôl Brwydr Moscow, gorfodwyd yr Almaenwyr, a oedd yn dioddef o losg eira yr eira trwm, i droi yn eu holau. O'r herwydd, "Dinas yr Arwyr" yw llysenw Moscow ers yr Ail Rhyfel Byd.

Adeiladau

Moscfa.