Eglwys Gadeiriol Sant Basil
| Delwedd:Храм Василия Блаженного №2.JPG, 00 0568 Saint Basil's Cathedral - Moscow.jpg | |
| Math | Eastern Orthodox church building, atyniad twristaidd, tirnod |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Intercession of the Theotokos |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Sgwâr Coch |
| Sir | Tverskoy District |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 55.7525°N 37.623056°E |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Russian architecture, tented-roof church |
| Statws treftadaeth | safle treftadaeth ddiwylliannol ffederal yn Rwsia |
| Sefydlwydwyd gan | Ifan IV |
| Cysegrwyd i | Theotokos |
| Manylion | |
| Deunydd | bricsen |
| Esgobaeth | Eparchaeth Moscfa |
Eglwys gaderiol uniongred Rwsiaidd yng nghanol Moscfa, ar y Sgwâr Coch, yw Eglwys Gadeiriol Sant Basil. Hon yw un o henebion mwyaf cyfarwydd Rwsia. Enw swyddogol yr eglwys yw Eglwys Cyfryngdod y Forwyn Fair ar y Ffos (Rwsieg Собо́р Покрова́, что на Рву́ / Sobor Pokrova, chto na Rvu).
Adeiladwyd yr eglwys gan Ifan IV rhwng 1555 a 1561 er parch am oresgyniad dinas Kazan a Tatariaid y Volga. Yn ôl chwedl poblogaidd (sy ddim yn wir), dallodd Ifan IV y pensaer, Postnik Yakovlev fel na byddai'n cynllunio adeilad godidocach na'r gadeirlan.
Ychwanegwyd capel ar ochr ddywreiniol y safle dros fedd Sant Basil y Ffwl Sanctaidd gan Tsar Fedor Ivanovich ym 1588. Y capel hwnnw yw ffynhonnell enw poblogaidd yr holl eglwys. Heddiw mae'n cynnwys naw capel ar yr un safle. Cydnabyddir Eglwys Gadeiriol Sant Basil heddiw fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
