Sgwâr Coch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sgwâr Coch
RedSquare (pixinn.net).jpg
Math sgwâr, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Kremlin and Red Square Edit this on Wikidata
Sir Moscfa Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau 55.7542°N 37.62°E Edit this on Wikidata
Eglwys gadeiriol Sant Basil a'r Tŵr Spasskaya, Sgwâr Coch

Sgwâr yn Moscfa yw Sgwâr Coch (Rwseg, Красная площадь, Krásnaya plóshchad’, a gaiff ei ystyried yn ganol dinas Mosgfa. Mae'n gwahanu'r Cremilin oddi wrth y faestref fasnachol, draddodiadol a elwir yn Kitai-gorod, lle ceir y priffyrdd a'r cysylltiadau trenau a bysiau mwyaf o'r ddinas.

Does a wnelo'r enw ddim oll â lliw'r adeiladau, neu Gomiwnyddiaeth gan mai gwyngalch oedd ar yr adeiladau yn draddodiadol, ac enwyd y sgwâr flynyddoedd cyn cysylltwyd y lliw coch gyda Chomiwnyddiaeth. Daw'r gair o'r Rwsieg "красная" (crasnaya), sef "coch" neu "brydferth", ac fe'i rhoddwyd i ddisgrifio rhan fechan o'r sgwâr rhwng Eglwys Gadeiriol Sant Basil a Thwr Spassky, un o dyrrau'r Cremlin.

Mae'r pared militaraidd yn cael ei gynnal yma'n flynyddol ar Galan Mai.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Aksyonov, Pavel (21 Ionawr 2008). "Tanks to return to Red Square". BBC News. http://news.bbc.co.uk/2/hi/europe/7200669.stm. Adalwyd 14 Mehefin 2009.
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.