Fienna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau) ffigyrau poblogaeth |
B clean up |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
Prifddinas [[Awstria]] yw '''Fienna''' ({{iaith-de|Wien}}). Mae Fienna hefyd yn enw ar un o daleithiau'r wlad (''Bundesland Wien''). Mae'r ddinas, sy'n gorwedd ar lan [[Afon Donaw]], yn ganolfan ddiwylliannol a gwleidyddol o bwys. Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn byw yno. Hon yw dinas fwya'r wlad. |
Prifddinas [[Awstria]] yw '''Fienna''' ({{iaith-de|Wien}}). Mae Fienna hefyd yn enw ar un o daleithiau'r wlad (''Bundesland Wien''). Mae'r ddinas, sy'n gorwedd ar lan [[Afon Donaw]], yn ganolfan ddiwylliannol a gwleidyddol o bwys. Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn byw yno. Hon yw dinas fwya'r wlad. |
||
Lleolir pencadlysoedd Mudiad Datblygiad Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig ([[UNIDO]]), Mudiad y Gwledydd Allforio Olew ([[OPEC]]) a'r [[Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol]] (IAEA) i gyd yn Fienna. |
Lleolir pencadlysoedd Mudiad Datblygiad Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig ([[UNIDO]]), Mudiad y Gwledydd Allforio Olew ([[OPEC]]) a'r [[Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol]] (IAEA) i gyd yn Fienna. |
||
== Hanes == |
== Hanes == |
||
Llinell 57: | Llinell 57: | ||
{{Taleithiau Awstria}} |
{{Taleithiau Awstria}} |
||
{{Prifddinasoedd Ewrop}} |
{{Prifddinasoedd Ewrop}} |
||
[[Categori:Fienna| ]] |
[[Categori:Fienna| ]] |
Fersiwn yn ôl 18:01, 14 Mawrth 2017
Fienna | |
---|---|
Lleoliad yn Awstria | |
Gwlad | Awstria |
Llywodraeth | |
Maer | Michael Häupl |
Daearyddiaeth | |
Uchder | 151 m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 1,840,573 (Cyfrifiad 2016) |
Dwysedd Poblogaeth | 4,437 /km2 |
Metro | 2,680,667 (2014) |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | CET (UTC+1),
Haf: CEST (UTC+2) |
Gwefan | http://www.wien.gv.at |
Prifddinas Awstria yw Fienna (Almaeneg: Wien). Mae Fienna hefyd yn enw ar un o daleithiau'r wlad (Bundesland Wien). Mae'r ddinas, sy'n gorwedd ar lan Afon Donaw, yn ganolfan ddiwylliannol a gwleidyddol o bwys. Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn byw yno. Hon yw dinas fwya'r wlad.
Lleolir pencadlysoedd Mudiad Datblygiad Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig (UNIDO), Mudiad y Gwledydd Allforio Olew (OPEC) a'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) i gyd yn Fienna.
Hanes
Sefydlwyd Fienna gan y Celtiaid tua 500 cyn Crist ac yn 15 C.C. roedd hi'n dref yn yr Ymerodraeth Rufeinig o'r enw Vindobona. Yn y Canol Oesoedd roedd y teuluoedd Babenberg a Habsburg yn byw yn Fienna ac roedd hi'n brifddinas i'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd ac yn ddiweddarach i Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Roedd yr Ymerodraeth Ottoman yn ymosod ar Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, ond wnaethon nhw ddim dod ymhellach i'r gorllewin. Ym 1815 cynhaliwyd Cynhadledd Fienna ar ôl gorchfygiad Napoleon Bonaparte ym Mrwydr Waterloo.
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Leopold
- Eglwys gadeiriol San Steffan
- Gorsaf Karlsplatz Stadtbahn
- Hundertwasserhaus
- Karlskirche (eglwys)
- Kunsthistorisches Museum (amgueddfa)
- Palas Hofburg
- Palas Liechtenstein
- Staatsoper (tŷ opera)
- Theater an der Wien
- Tŵr Mileniwm
- Wiener Konzerthaus (neuadd cyngerdd)
- Wiener Musikverein
- Wotrubakirche (eglwys)
Enwogion
- Carl Czerny (1791-1857), pianydd a chyfansoddwr
- Franz Schubert (1797-1828), cyfansoddwr
- Fritz Kreisler (1875-1962), fiolinydd
- Alban Berg (1885-1935), cyfansoddwr
- Paul Wittgenstein (1887-1961), pianydd
- Ludwig Wittgenstein (1889-1951), athronydd
- Vicki Baum (1888-1960), awdures
- Konrad Lorenz (1903-1989), biolegydd
- Theodore Bikel (g. 1924), actor
Taleithiau Awstria | |||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Fienna| Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg
|