Franz Schubert

Oddi ar Wicipedia
Franz Schubert
GanwydFranz Peter Schubert Edit this on Wikidata
31 Ionawr 1797 Edit this on Wikidata
Himmelpfortgrund, Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 1828 Edit this on Wikidata
o teiffoid Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Archddugiaeth Awstria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Gerdd a Chelf Mynegiannol Fiena
  • Akademisches Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, athro Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSymphony No. 8, Symphony No. 9, Symphony No. 3, Winterreise, Death and the Maiden, Ellens dritter Gesang Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
TadFranz Theodor Schubert Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfansoddwr Awstraidd oedd Franz Peter Schubert (31 Ionawr 179719 Tachwedd 1828).

Ganed Schubert yn Himmelpfortgrund, gerllaw Fienna, y trydydd ar ddeg o un ar bymtheg o blant. Roedd eisoes yn cael gwersi cerddoriaeth gan ei dad, Franz Theodor Schubert, pan oedd yn chwech oed. Ym mis Hydref 1808, daeth yn aelod o'r côr yn Hofkapelle Fienna. Ceir y dyddiad 8 Ebrill - 1 Mai 1810 ar un o'i gyfansoddiadau cynnar.

Bu'n athro cynorthwyol am gyfnod, ond fel arall nid oedd ganddo ffynhonnell ddibynadwy o arian. Bu yn Hwngari am gyfnod yn 1818 gweithio fel athro cerddorol i deulu Esterházy. Dim ond wedi ei farwolaeth y daeth ei gerddoriaeth yn wirioneddol boblogaidd, ond perfformiwyd dwy opera o'i waith yn 1820[1] a chafodd lwyddiant gyda chyhoeddi Opus 1–7 a 10–12 yn 1821/2. Erbyn hyn roedd ei iechyd yn dirywio. Bu farw ar 19 Tachwedd 1828 (195 blynedd yn ôl) wedi pythefnos o dwymyn. Claddwyd ef yn mynwent Währinger, Fienna, heb fod ymhell o fedd Ludwig van Beethoven.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Lieder (Caneuon)[golygu | golygu cod]

Gweithiau i gerddorfa[golygu | golygu cod]

Simphoniau[golygu | golygu cod]

  • Symffoni rhif 1, D fwyaf, D 82
  • Symffoni rhif 2, Bb fwyaf, D 125
  • Symffoni rhif 3, D fwyaf, D 200
  • Symffoni rhif 4, C leiaf, D 417 "Drasig"
  • Symffoni rhif 5, Bb fwyaf, D 485
  • Symffoni rhif 6, C fwyaf, D 589
  • Symffoni (anghyflawn), D fwyaf, D 615
  • Symffoni (anghyflawn), D fwyaf, D 708a
  • Symffoni (anghyflawn), E fwyaf, D 729
  • Symffoni rhif 7 (anghyflawn), B leiaf, D 759, "Anorffenedig"
  • Symffoni (anghyflawn), D fwyaf, D 936a
  • Symffoni rhif 9, C fwyaf, D 944, "Fawr"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.