Manordeifi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yng ngogledd Sir Benfro yw Manordeifi. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi tua hanner ffordd rhwng Castell Newydd Emlyn i'r dwyrain ac Aberteifi i'r gorllewin ac ar y ffordd rhwng Llechryd ac Abercych.

Treuliodd y bardd telynegol John Blackwell (Alun) (1797 - 1841) wyth mlynedd fel rheithior y plwyf, o 1833 hyd ei farwolaeth yn 1841. Claddwyd ef ym mynwent y plwyf.


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato