Hook, Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Mynydd Seion, Hook.

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Hook. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r de o dref Hwlffordd ar lan Afon Cleddau Wen. Gelwir tro yn yr afon gerllaw yn Hook Bight.

Ar un adeg roedd glo carreg o lofa Hook, un o'r rhai olaf fu'n gweithio yn Sir Benfro, yn cael ei allforio o Hook Quay. Defnyddid tramffordd i ddod a'r glo at y cei.

Dim ond yn 1999 y daeth Hook yn gymuned; cyn hynny roedd yn rhan o gymuned Llangwm. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 656.