Rhoscrowdder

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Purfa olew Rhoscrowdder gyda'r nos.

Pentref a phlwyf yn Sir Benfro yw Rhoscrowdder (Seisnigiad: Rhoscrowther).[1] Fe'i lleolir yn ne'r sir tua 6 milltir i'r gorllewin o dref Penfro ger lan ogleddol Afon Cleddau. Mae'n rhan o gymuned Hundleton.

Yn yr Oesoedd Canol, Rhoscrowdder oedd un o ganolfannau eglwysig pwysicaf Cantref Penfro, Dyfed.

Erbyn heddiw mae'r pentref yn fwy adnabyddus fel lleoliad purfa olew Rhoscrowdder, un o'r rhai mwyaf yng ngwledydd Prydain.

Cyfeiriadau[golygu]


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato