Crymych

Oddi ar Wicipedia
Crymych
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,739 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9729°N 4.6482°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000421 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Crymych.[1] I'r gogledd saif bryn y Frenni Fawr (1269 troedfedd). Mae Afon Nyfer yn llifo trwy Grymych ar ddechrau ei thaith i'r môr ym Mae Ceredigion.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Eglwyswen.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Datblygodd yn bennaf oherwydd ei leoliad ar linell rheilffordd y Cardi Bach, a oedd yn rhedeg rhwng Hendy-gwyn ar Daf ac Aberteifi. Yn ystod dechrau'r 20g, datblygodd i fod yn ganolfan drafnidiaeth a gwasanaethau ar gyfer cylch amaethyddol eang yn nwyrain y Preseli. Ym 1958, cadarnhawyd statws Crymych fel 'prifddinas y Preseli' pan agorwyd ysgol uwchradd yn y pentref, sef Ysgol y Preseli. Ym 1991, cafodd Ysgol y Preseli ei gwneud yn ysgol gyfun ddwyieithog gyntaf Sir Benfro, gan adlewyrchu hunaniaeth gref Crymych a'r cylch fel cymuned naturiol Gymraeg ei hiaith er gwaethaf yr holl fewnfudo o Loegr ers dechrau'r 1970au.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Ymhlith enwogion a fagwyd o fewn ychydig filltiroedd i Grymych gellid crybwyll:


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Crymych (pob oed) (1,739)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Crymych) (991)
  
59.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Crymych) (1144)
  
65.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Crymych) (209)
  
29%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]