Martletwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Marchell, Martletwy.

Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Martletwy. Nid ymddengys fod enw Cymraeg am y pentref.[1] Saif i'r dwyrain o Afon Cleddau, tua hanner y ffordd rhwng Hwlffordd a Dinbych y Pysgod.

Ail-adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Marchell yn yr Oesoedd Canol, yn 1848-1850.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Landshipping a Lawrenni, ac yn ymestyn at lan Afon Cleddau. Ar un adeg, bu mwyngloddio ac allforio glo carreg yn weddol bwysig yn yr ardal. Ceir canolfan ymwelwyr Oakwood, gyda reidiau ac atyniadau eraill, o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 523 yn 2001.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Martletwy (pob oed) (570)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Martletwy) (81)
  
14.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Martletwy) (335)
  
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Martletwy) (62)
  
26.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Enwau Cymru
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013