Eglwyswrw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aradu gyda cheffyl gwedd ar fferm ger Eglwyswrw.

Pentref yng ngogledd Sir Benfro yw Eglwyswrw. Fe'i lleolir ar y ffordd A487 tua 6 milltir i'r de o Aberteifi.

Llifa Afon Gafren, ffrwd sy'n llifo i Afon Nyfer gerllaw, drwy'r pentref. Milltir a hanner i'r gorllewin ceir Castell Henllys, bryngaer fechan o Oes yr Haearn. Henllys oedd cartref hanesyddol George Owen. Ar un adeg cynhelid Ffair Feugan yma. Meugan yw sant y cwmwd. Dywed Wade Evans fod Meugan yn debygol o fod yn ddisgybl i Fartin, am fod Ffair Feugan yn cael ei chynnal ar y Llun ar ol Gwyn Fartin.

Tarddiad yr enw [golygu]

Cysegrwyd yr eglwys hynafol i Sant Gwrw neu Erow, sydd fel arall yn anhysbys (dyma'r unig le i ddwyn ei enw). Cleserouw oedd y ffurf wreiddiol nôl yn 1292, h.y. eclesserouw, Eglwys Erouw.[1]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Dictionary of Place-names of Wales; Gwasg Gomer, 2007; Tud 139.


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato