Amroth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amroth

Pentref glan-môr a chymuned ar Fae Caerfyrddin yn ne-ddwyrain Sir Benfro yw Amroth neu Llanrhath. Fe'i lleolir 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Saundersfoot a 2 filltir i'r dwyrain o bentref Stepaside. Mae'r pentref bron iawn ar y ffin â Sir Gaerfyrddin.

Yn y 19eg ganrif pentref ar gyfer teuluoedd glowyr lleol a weithiai ym mhyllau glo carreg (anthracite) yr ardal oedd Amroth. Mae'r tai yn wynebu'r môr ac yn agored iddo, felly ceir nifer o dorrwyr dŵr ar y traeth llydan i'w amddiffyn rhag y llanw uchel.

Pan fo'r môr allan gellir gweld olion hen goedwig a foddwyd gan y môr rhai miloedd o flynyddoedd yn ôl (tua 5000 CC yn ôl profion carbon radio). Mae esgyrn anifeiliaid sydd wedi darfod o'r tir yn cael eu darganfod ar y traeth weithiau o bryd i'w gilydd, ynghyd ag offer carreg cynhanesyddol.

Erbyn heddiw mae Amroth yn cael ei foddi gan dwristiaid yn yr haf a cheir nifer o barciau carafanau a chalets ar eu cyfer. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Amroth (pob oed) (1,232)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Amroth) (140)
  
11.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Amroth) (642)
  
52.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Amroth) (229)
  
41.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: