Casblaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cas-blaidd)
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Penybont, Casblaidd.

Pentref a chymuned yng nghanolbarth Sir Benfro yw Casblaidd neu Cas-blaidd (Saesneg: Wolf's Castle neu Wolfscastle). Saif ar y briffordd A40, tua hanner y ffordd rhwng Abergwaun a Hwlffordd, lle mae Afon Anghof yn llifo i mewn i Afon Cleddau Ddu. Mae'r pentref mewn dwy ran, Casblaidd ei hun a Penybont yr ochr draw i Afon Anghof.

Ceir castell mwnt a beili yma, a chafwyd hyd i olion fila Rufeinig. Yn ôl y chwedl, yma y lladdwyd y blaidd olaf yng Nghymru, ond nid ymddengys fod tystiolaeth o hyn. Mae hefyd chwedl i Owain Glyndŵr gael ei eni yn yr ardal, ond nid oes tystiolaeth i gefnogi hyn.

Dolenni allanol [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: