Cas-mael

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yng ngogledd Sir Benfro yw Cas-mael, weithiau Cas' Mael (Saesneg: Puncheston). Saif ar ffordd gefn i'r de-ddwyrain o dref Abergwaun ac i'r dwyrain o'r briffordd A40. Bu Waldo Williams yn athro yn y pentref am gyfnod, ac yma yr ysgrifennodd ei gerdd enwog Ar Weun Cas' Mael.

Heblaw pentref Cas-mael, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Casnewydd-bach, Castellhenri, Cas-fuwch a Poll Tax. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 472.

Enwogion [golygu]