Trecŵn

Oddi ar Wicipedia
Trecŵn
Stad tai yn Nhrecŵn.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52°N 5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref yng nghymuned Scleddau, Sir Benfro, Cymru, yw Trecŵn.[1][2] Saif yng ngogledd-orllewin y sir, i'r de o dref Abergwaun ac i'r dwyrain o briffordd yr A40.

Cyn 2012 roedd yn gymuned ynddo'i hun. Roedd poblogaeth y gymuned honno yn 2001 yn 359.

Arferai John Wesley aros ym mhlasdy Trecŵn; yn ddiweddarach gwerthwyd y plasdy i'r Llynges a daeth yn safle ffatri a storfa arfau, gyda rhwydwaith o dwneli tanddaearol. Caewyd y ffatri yn 1995; mae'r plasdy yn awr wedi ei ddymchwel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Tachwedd 2021