Slebets

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Slebets.

Pentref bychan a chymuned yn Sir Benfro yw Slebets (Saesneg: Slebech). Saif i'r dwyrain o dref Hwlffordd ger y briffordd A40, ar lan ogleddol Afon Cleddau Ddu. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 172.

Hanes[golygu]

Roedd gan urdd Marchogion Sant Ioan gomawndri yn Slebets; yr unig un yng Nghymru. Sefydlwyd hwn gan arglwyddi Cas-wis tua chanol y 12fed ganrif. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn y 16eg ganrif, daeth eglwys y comawndri yn eglwys y plwyf. Yn yr eglwys mae bedd William Hamilton, oedd yn un o sylfaenwyr tref Aberdaugleddau; mae'n fwy enwog oherwydd i'w wraig, Emma, gael carwriaeth adnabyddus a'r Arglwydd Nelson.

Saif Castell Pictwn o fewn y gymuned, ac yn 2006 dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau Bluestones yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Pobl o Slebets[golygu]

Bachgen o Slebets oedd Roger Barlow a fu ar fordaith gyda Sebastian Cabot yn 1526 ac a gyfieithodd y Suma de Geographie o'r Sbaeneg i'r Saesneg; sef disgrifiad o diroedd y Byd Newydd.

Gweler hefyd[golygu]