Abereiddi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfordir Penfro yn Abereiddi.

Pentref bychan yng ngorllewin Sir Benfro yw Abereiddi (llurguniad: Abereiddy). Gorwedd ar arfordir Penfro ar fae tywodlyd yng nghysgod penrhyn Penclegyr, tua hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun.

Enillodd y traeth Faner Glas yn 2005. Ceir maes parcio mawr wrth ei ymyl. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro heibio i'r traeth sydd, fel y pentref ei hun, yn rhan o Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gerllaw mae adfeilion yr harbwr a adeiladwyd ar gyfer y chwarel llechi leol a'r tai a godwyd ar gyfer y chwarelwyr.

Gweler hefyd[golygu]



WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato