Castellmartin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys plwyf Castellmartin.

Pentref a phlwyf eglwysig yn ne Sir Benfro yw Castellmartin neu Castell Martin (Saesneg: Castlemartin). Saif heb fod ymhell o'r arfordir, 8 km i'r de-orllewin o dref Penfro ac i'r de o Ddoc Penfro. Ers 2011 mae'n rhan o gymuned Castellmartin a Stackpole.

Ymhlith hynafiaethau'r ardal mae'r castell mwnt a beili Normanaidd a roddodd ei enw i'r pentref. Roedd yr eglwys yn wreiddiol wedi ei chysegru i Sant Martin o Tours ond cafodd ei hailgysegru i Sant Mihangel a'r Holl Saint.

Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys pentref bychan Warren a tua 12 km o arfordir. O amgylch Warren mae llawer o'r tir yn eiddo i'r fyddin, sy'n ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer tanio fel Maes Tanio Tanciau Castell Martin, sydd tua 2400 hectar o arwynebedd. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro trwy'r ardal, ond oherwydd presenoldeb y fyddin mae'n gorfod cadw yn weddol bell o'r arfordir mewn rhan o'r ardal, er ei fod yn croesi'r maes tanio gorllewinol pan nad oes tanio. Roedd poblogaeth y plwyf yn 147 yn 2001.