Y Stagbwll

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 51°37′46″N 4°54′50″W / 51.62939°N 4.91391°W / 51.62939; -4.91391

Y Stagbwll
Arwydd ffordd pentref Ystangbwll.png
Arwydd ffordd wrth mynd mewn i bentref 'Ystangbwll'.
Y Stagbwll is located in Cymru
Y Stagbwll

Y Stagbwll Cymru
Cyfeirnod grid yr AO SR99NE62
    - Caerdydd 75.4 mi (121.3 km)  
    - Llundain 205.7 mi (331.0 km)  
Cymuned Pentref Castellmartin a Stackpole
Sir Penfro
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Penfro
Rhanbarth cod post SA71
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Penfro
Cynulliad Cymru Penfro
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •


Pentref yn ne Sir Benfro yw Y Stagbwll (Saesneg: Stackpole). Saif yn y rhan fwyaf deheuol o Sir Benfro, ger yr arfordir i'r de o dref Penfro. Ers 2011 mae'n rhan o gymuned Castellmartin a Stackpole. Poblogaeth Y Stagbwll a'r cylch: 443 (2001).

Enw[golygu]

Mae ansicrwydd dros ffurf gywir enw'r pentref yn Gymraeg. Cyfeirir at y pentref fel 'Ystagbwll' ar wefan Cyngor Sir Benfro.[1] Ymddangosir yr enw fel 'Ystangbwll' ar arwyddion ffordd wrth fynd mewn i'r pentref (gweler y llun uchod).

Daearyddiaeth[golygu]

Gerllaw ceir pentrefi Bosherston, Cheriton, Sain Pedrog a St. Twynnells. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd trwy'r ardal a cheir golygfeydd arfordirol nodedig.

Hanes[golygu]

Pont Y Stagbwll

Yn y 19eg ganrif roedd stad Stackpole, oedd yn eiddo i deulu Campbell, yn berchen ar 21,000 hectar yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin; dim ond stad Wynnstay yn y gogledd-ddwyrain oedd yn fwy yng Nghymru.

Dymchwelwyd plasdy Stackpole Court yn 1963; mae'r llynnoedd a grëwyd gerllaw yn niwedd y 18fed ganrif, sef Llynnoedd Bosherston, yn awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pobl o'r Stagbwll[golygu]


Cyfeirnodau[golygu]

  1. http://mgwelsh.pembrokeshire.gov.uk/mgParishCouncilDetails.aspx?bcr=1 Cynghorau Tref a Chymuned Sir Benfro | Adalwyd 31 Mawrth 2014