Penalun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pentref Penalun.

Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Penalun (Saesneg: Penally). Saif ger yr arfordir, fymryn i'r de-orllewin o dref Dinbych y Pysgod. Ceir yma orsaf ar gangen Doc Penfro o Reilffordd Gorllewin Cymru. Mae gan y fyddin faes tanio rhwng y pentref a'r môr.

Yn ôl traddodiad, yma y ganwyd Sant Teilo, ac roedd clas cynnar yma. Yn yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Nicolas a Sant Teilo ac sy'n dyddio o tua'r 13eg ganrif, ceir dwy groes Geltaidd; ystyrir un o'r rhain gan lawer fel y gorau yng Nghymru.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd trwy'r gymuned.