Clydau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Clydai, Clydau

Pentref bychan a chymuned yng ngogledd Sir Benfro yw Clydau (ceir yr amrywiad Clydai; hefyd Clydey ar rai mapiau Saesneg). Saif tua 8 milltir i'r de-orllewin o dref Castell Newydd Emlyn ac 13 km i'r de-ddwyrain o Aberteifi. Dyddia Eglwys Sant Clydai o'r 19eg ganrif, ond mae'r tŵr yn dyddio o'r 13eg ganrif. Tu mewn iddi ceir tair garreg gydag arysgrifau o'r 5ed a'r 6ed ganrif, dwy gydag arysgrif dwyieithog, Lladin ac Ogam, a'r drydedd yn Lladin yn unig.

Heblaw Clydau ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Tegryn, y pentref mwyaf yn y gymuned, Star a Bwlch-y-groes. Saif chwarel lechi Y Glog o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 681, gyda 91% ohonynt ym medru'r Gymraeg.

Pobl o Glydau [golygu]