Doc Penfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°41′36″N 4°56′45″W / 51.69333°N 4.94584°W / 51.69333; -4.94584

Doc Penfro
The Haven - geograph.org.uk - 381259.jpg
Doc Penfro is located in Cymru
Doc Penfro

 Doc Penfro yn: Cymru
Poblogaeth 8,678 
Prif ardal Penfro
Sir seremonïol Dyfed
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost DOC PENFRO
Cod deialu 01646
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •
Doc Penfro.
Doc Penfro yn y nos.

Tref yn ne Sir Benfro yw Doc Penfro. Saif ar ochr ddeheuol Afon Cleddau, gyferbyn a Neyland, gyda Pont Cleddau yn eu cysylltu. Gyda phoblogaeth o 8,676 yn 2001, Doc Penfro yw'r drydedd dref yn Sir Benfro o ran maint.

Sefydlwyd y dref yn 1814 pan ddechreuodd y Llynges Frenhinol iard adeiladu llongau yma. Lansiwyd y ddwy long gyntaf, Valorous ac Ariadne, yn Chwefror 1816. Gyda'r angen i amddiffyn yr iard, daeth Doc Penfro yn dref filwrol, gyda barics yn cael ei adeiladu yn 1844. Lansiwyd y llong olaf yma yn 1922, a chaewyd yr iard yn 1926.

Yn 1931 sefydlodd yr Awyrlu Brenhinol ganolfan yma. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu tân mawr ar 19 Awst 1940 pan fomiwyd tanciau olew gan arwyren Almaenig.

Erbyn hyn mae'r lluoedd arfog wedi gadael, ac mae diweithdra'n uchel. Mae'r porthladd yn parhau, ac mae cwmni Irish Ferries yn rhedeg fferi i Rosslare yn Iwerddon ddwywaith y dydd.


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato