Johnston, Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Johnston. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r de-orllewin o dref Hwlffordd ar y briffordd A4076 i Aberdaugleddau. Mae'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Pedr, yn dyddio o'r canol oesoedd.

Ceir yma orsaf ar gangen Aberdaugleddau o Reilffordd Gorllewin Cymru. Ar un adeg roedd lein fach yn cysylltu Johnstown a Hook ar lan Afon Cleddau Wen, lle roedd cei.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,778.


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato