Hundleton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Hundleton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gorllewin o dref Penfro gerllaw glan Afon Penfro, sy'n rhan o aber Afon Cleddau.

Heblaw pentref Hundleton ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Maiden Wells, Pwllcrochan a Rhoscrowdder. Ceir purfa olew yn perthyn i Texaco yn y gymuned, gydag angorfa ar gyfer tanceri hyd at 280,000 tunnell fetrig. Bu'r naturiaethwr R. M. Lockley yn byw yn Orielton House. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 780.