Aberllydan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Traeth Broad Haven.

Pentref bychan yn Sir Benfro yw Aberllydan (Saesneg: Broad Haven). Fe'i lleolir ar lan Bae Sain Ffraid tua 6 milltir i'r gorllewin o dref Hwlffordd.

Mae'n rhan o gymuned The Havens. Mae'n ganolfan gwyliau ers hanner cyntaf y 19eg ganrif ac yn boblogaidd gan ymwelwyr oherwydd y traeth llydan sydd rhynddo a phentref Little Haven, i'r de, traeth sydd wedi derbyn baner las yn ddiweddar oherwydd ei lendid.[1] Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Cyfeiriadau[golygu]


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato