George Owen
Oddi ar Wicipedia
Hynafiaethydd, naturiaethwr ac awdur Cymreig oedd George Owen o Henllys (1552 - 26 Awst, 1613).
Ganed ef yn Henllys ym mhlwyf Nanhyfer, yn fab hynaf Elizabeth Herbert a William Owen, cyfreithiwr cefnog. Addysgwyd George yn y gyfraith yn Llundain, ac yn 1571 priododd Elizabeth Phillips. Bu iddynt unarddeg o blant; ganed ei fan hynaf, Alban Owen, yn 1580.
Cymerai ddiddordeb mawr mewn achyddiaeth, hanes lleol a daearyddiaeth, yn Sir Benfro a rhannau eraill o Gymru. Bu iddo ran mewn gosod y seiliau ar gyfer astuduaeth o ddaeareg Cymru. Bu'n noddwr i nifer o feirdd Cymraeg. Bu farw yn Hwlffordd a chladdwyd ef yn Nanhyfer. Enwyd un nodwedd ddaearyddol ar y Lleuad ar ei ôl; y grib a elwir yn Dorsum Owen.
[golygu] Cyhoeddiadau
- A Dialogue of the present Government of Wales, 1594.
- The Number of the Hundreds, Castells, Parish Churches and ffayres...in all the Shiers of Wales yn ddiweddarach cafodd hwn y teitl Description of Wales, 1602.
- 'The Description of Penbrokeshire, 1603.
Cyhoeddodd fap o Sir Benfro (1602), a gyhoeddwyd yn chweched argraffiad y Britannia (1607).

