D. J. Davies
D. J. Davies | |
---|---|
Ganwyd | Daniel John Davies 2 Medi 1885 Cymru |
Bu farw | 4 Mehefin 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad, bardd |
Bardd o Sir Benfro oedd Daniel John Davies (2 Medi 1885 - 4 Mehefin 1970). Cyhoeddai wrth yr enw D. J. Davies ac roedd yn adnabyddus hefyd fel 'Davies Capel Als'.
Cafodd ei eni ger pentref Crymych, gogledd Sir Benfro, mewn ardal Gymraeg iawn. Ar ôl cael ei addysg yn Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd a Choleg Coffa Aberhonddu, daeth yn weinidog Capel Als, Llanelli.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, 1932.
Un gyfrol yn unig o'i gerddi a gyhoeddwyd, sef Cywyddau a Chaniadau eraill (1968), yn fuan cyn ei farwolaeth yn 1970.