Ardal Y Pentan

Oddi ar Wicipedia
Ardal Y Pentan
Enghraifft o'r canlynolrhanbarth Edit this on Wikidata

Mae ardal Y Pentan yn ymestyn o Lanrwst yn y de i Landudno yn y gogledd, ac o Lanfairfechan yn y gorllewin i Hen Golwyn yn y dwyrain.

Llanrwst[golygu | golygu cod]

Mae Llanrwst yn dref farchnad ers canrifoedd. Mae pobl wedi heidio yno ar ddiwrnod ffair a marchnad o’r pentrefi cyfagos i werthu eu cynnyrch a’u hanifeiliaid. Yma mae cartref Gwasg Carreg Gwalch, argraffwyr ‘Y Pentan’ a sefydlwyd gan Myrddin ap Dafydd,[1] bardd y gadair yn Nhyddewi a Chwm Rhymni. Roedd yr herwr, Dafydd ap Siencyn [2] a’i ddynion, cefnogwyr brwd Harri Tudur,[3] yn cuddio yn Ogof Carreg Gwalch. Bu Llanrwst yn enwog am ei gwneuthurwyr clociau fel John Owen (yn y 18g) ac yna ei fab, Watkin Owen. Cydnabyddir bod eu clociau wyth niwrnod yn rhai o safon.[4] Rhaid peidio ag anghofio’r diwydiant telynau fu mewn bri yma dros genedlaethau. Mae’n debyg mai’r enwocaf oedd John Richards a’i delyn deires yn y 18g. Er mai yn Llansannan y ganwyd William Salesbury [5], un o'r gyfieithwyr y Beibl, treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn Lanrwst.

Wrth sefyll ar lan Afon Conwy, fe welwch y Bont Fawr a gynlluniwyd gan Inigo Jones [6]. Yr ochr arall i’r afon, draw yn y coed, mae Castell Gwydir,[7] fu’n gartref i deulu’r Wynniaid. Honnir bod y teulu wedi talu am addysg i William Morgan,[8] cyfieithydd y Beibl.

Trefriw[golygu | golygu cod]

Pentref tawel yw Trefriw heddiw, er daw llawer i ymweld â’r ffatri wlan a’r ffynhonnau yr honnir bod eu dŵr yn iachusol. Yma roedd llys Llywelyn Fawr [9] a honnir i Lywelyn adeiladu Eglwys Trefriw yn arbennig er mwyn ei wraig Siwan, rhag iddi orfod teithio i Lanrhychwyn yn y bryniau uwchben y pentref i addoli. Erstalwm, roedd yn bosibl i ‘stemars’ deithio i fyny’r afon o Gonwy a Deganwy gan gario ymwelwyr a nwyddau.

Fel y dywed yr hen rigwm:-

                                        Stemar bach ar Afon Conwy
                                        Mynd o Drefriw i Ddeganwy
                                        Oedi peth wrth Bont Dolgarrog,
                                        Mynd dan Bont Tal  Cafn yn frysiog.

Yma y magwyd Ieuan Glan Geirionydd, awdur ‘Ar fôr tymhestlog teithio rwyf...

Mae’n werth crwydro i fyny ‘r bryniau i weld y llynnoedd Geirionydd, Crafnant, Eigiau a Chowlyd y canodd Gwilym Cowlyd iddynt:-

                                       Y llynnau gwyrddion llonydd – a gysgant
                                             Mewn gwasgod o fynydd.
                                       A thynn heulwen ysblennydd
                                            Ar len y dŵr, lun y dydd.

Dolgarrog[golygu | golygu cod]

Yn Nolgarrog bu Gwaith Aliwminiwm, fu’n rhoi gwaith i nifer yn yr ardal ers 1908 [10]. Mae'r safle bellach yn rhan o Surf Snowdonia,[11] ffug safle i ymarfer syrffio. Uwchben y pentref, yn Nhachwedd 1925, torrodd argae Llyn Eigiau oedd wedi ei adeiladu i gynhyrchu trydan ar gyfer y gwaith, a boddwyd rhan helaeth o’r pentref a chollwyd 16 o fywydau.[12]

Ar draws yr afon i gyfeiriad Maenan, ar safle Gwesty Abaty Maenan.[13] Cododd Edward I, brenin Lloegr, yr abaty, ar ôl symud y mynachod o Gonwy pan oedd yn adeiladu’r castell. Pan gaewyd yr abaty yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed, symudwyd archgarreg Llywelyn Fawr oddi yno i Lanrwst.

Tal y Bont[golygu | golygu cod]

Mae tafarn ‘Y Bedol’ yn Nhal-y-bont yn ein hatgoffa am brysurdeb y dyddiau fu pan heidiai pobl i’r pentref a Llanbedr-y-cennin i Ffair Llanbad’ ble gwerthid, ymysg pethau eraill, ferlod ar gyfer pyllau glo De Cymru. Uwchben y pentref mae Pen y Gaer ac olion y ‘chevaux de fris’ unigryw i warchod y gaer rhag ymosodiad gan farchogion.[14]

Caerhun[golygu | golygu cod]

Yng Nghaerhun mae Eglwys Santes Fair sydd wedi ei hadeiladu ar safle hen gaer Rufeinig ‘Kanovium’. Yno, nepell o Dal-y-cafn, oedd y man gorau i groesi Afon Conwy, ac mae’n bosibl gweld rhywfaint o olion y gaer.

Teithiai’r Rhufeiniaid wedyn heibio Ro Wen, sydd bellach, yn anffodus, â nifer fawr o dai haf, i fyny’r bryniau, heibio cromlech Maen y Bardd, dros Fwlch y Ddeufaen, ar eu ffordd i Segontium (Caernarfon).[15]

Tal y Cafn[golygu | golygu cod]

Ar draws yr Afon Conwy, heibio Tal-y-cafn, mae pentref prysur Eglwysbach. Yno y magwyd Owen Williams, a gyfansoddodd nifer o donau adnabyddus, yn cynnwys ‘Hiraethlyn’, a enwyd ar ôl yr afon sy’n rhedeg drwy’r pentref. Dyma hefyd man geni un o'r Weinidogion Wesleiaidd bwysicaf ei dydd John Evans (Eglwysbach) [16] Pwy na chlywodd sôn am erddi enwog Bodnant gerllaw, cartref Arglwydd Aberconwy. Bellach, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gyfrifol am eu cadw.[17]

Llansanffraid Glan Conwy[golygu | golygu cod]

Yn is i lawr y Dyffryn mae Glan Conwy, neu Llansantffraid i roi ei hen enw, a fu’n ganolfan brysur i adeiladu llongau erstalwm. Roedd nifer o felinau yma ac mae Melin Isaf, sy’n agored i ymwelwyr, yn dal i droi.[18]

Cyffordd Llandudno[golygu | golygu cod]

Yna, fe awn i lawr yr afon i Gyffordd Llandudno. Dyfodiad y rheilffordd fu’n bennaf gyfrifol am ei ddatblygiad. Adeg yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd ffatri i gynhyrchu rhannau awyrennau rhyfel. Yn ddiweddarach, trowyd y lle yn ffatri peiriannau golchi Hotpoint. Ond erbyn hyn, diflannodd y cyfan. Diffeithwch yw’r safle bellach. I lawr wrth yr afon mae rhywbeth o bwys wedi digwydd. Pan adeiladwyd y twnnel newydd o dan Afon Conwy, symudwyd y pridd yn uwch i fyny’r afon a chreu Gwarchodfa Natur, sy’n datblygu i fod yn fan o bwys.

Conwy[golygu | golygu cod]

Fe groeswn y bont i Gonwy, ac mae gennym ddewis o dair – Pont grog a adeiladwyd gan Thomas Telford yn 1826, Pont y Rheilffordd a godwyd gan Robert Stephenson yn 1846, a’r bont a godwyd ym 1958. Yng Nghonwy, wrth gwrs, mae’n amhosibl i chwi beidio â gweld y castell a godwyd gan Edward 1af a muriau’r hen dref sy’n dal i sefyll yn gadarn. Adeg y Pasg,1401, llwyddodd cefnogwyr Owain Glyn Dŵr i feddiannu’r castell, ond byr fu eu harhosiad. Mae Plas Mawr a godwyd gan deulu’r Wynniaid, ac sydd yng ngofal CADW yn werth ymweld ag ef. Honnir bod Tŷ Aberconwy, a fu ar un amser yn dafarn, yn dyddio’n ôl i’r 14g. Safle Eglwys Santes Fair heddiw oedd safle’r abaty a symudodd Edward i Faenan.

Deganwy[golygu | golygu cod]

Ar draws Afon Conwy mae Deganwy, a draw ar fryniau’r Fardre, roedd safle Castell Maelgwn Gwynedd. Tipyn o gymeriad oedd hwn. Dywedir iddo gynnal eisteddfod rhwng y beirdd a’r telynorion, a bu’n rhaid i bob cystadleuydd, yn gyntaf, nofio ar draws yr afon. Wrth gwrs, doedd hi ddim yn bosib chwarae'r un delyn wedyn! Cafodd ddiwedd go erchyll ar ôl dianc i Eglwys Llanrhos rhag y fad felen. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef. Daeth ei ddiwedd wedi iddo sbecian drwy dwll y clo!

Ar y Gogarth Fawr, fe brofwyd bod cloddio am gopr yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. Gallwch deithio i fyny ar tram neu ar y car codi. Ar draws y bae, mae’r Gogarth Fach a Chreigiau Rhiwledyn. Honnir mai mewn ogof yma, yn anghyfreithlon, yr argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf tua 1486 – ‘Y Drych Cristionogawl.

Llanfairfechan[golygu | golygu cod]

Teithiwn i’r gorllewin i Lanfairfechan, ble mae Traeth Lafan sy’n edrych dros y Fenai i Ynys Môn. Yn Aber gerllaw, roedd llys Llywelyn Fawr, a chludwyd corff Siwan oddi yno i Benmon i’w gladdu. Yn ystod y blynyddoedd diweddar cafodd nifer o bobl fywoliaeth yn Ysbyty Bryn y Neuadd, fu’n arbenigo ar drin pobl ag anhawster dysgu. Codwyd yr ysbyty ar safle hen blasty a ehangwyd gan John Platt.

Penmaenmawr[golygu | golygu cod]

Y chwareli ithfaen fu’n gyfrifol am ddatblygiad Penmaenmawr, er mae olion bod pobl yn byw yma yn Oes y Cerrig wedi eu darganfod ar y Graig Lwyd uwchben y dref. Bu bri hefyd ar y dref fel lle gwyliau glan y môr. Un fu’n rhannol gyfrifol am hyn oedd y gwleidydd William Gladstone, oedd wrth ei fodd yn ymweld, hyd yn oed pan oedd yn brif weinidog!

Mochdre[golygu | golygu cod]

Mae Mochdre ar gyrion gorllewinol Bae Colwyn. Dywedir i’r lle gael ei enwi ar ôl i Gwydion ddod â’i foch yma o Ddyfed. Yn amser Rhyfel y Degwm, tua 1887, bu un o frwydrau mwyaf ffyrnig yn Fferm y Mynydd. Roedd rhyw 150 o blismyn yn mynd â’r ffermwr i’r ddalfa, ond ymosodwyd arnynt hwythau gan ddynion lleol a bu’n dipyn o sgarmes.

Llandrillo-yn-Rhos[golygu | golygu cod]

Uwchben Llandrillo-yn-Rhos, ar Bryn Euryn fe gododd Ednyfed Fychan blasty yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg Ef oedd distain Gwynedd, ac yn brif weinidog Llywelyn Fawr. Bu cryn gynnwrf yn 1908 pan suddodd y ‘padlar’ Rhosneigr, ar fordaith i Blackpool ychydig lathenni o’r traeth, ond llwyddwyd i achub pawb yn ddianaf. Bu’n bosib’ gweld olion y llong pan oedd y llanw ar drai hyd 1960.

Hen air Cymraeg am gi ifanc yw ‘Colwyn’. Roedd gorsaf reilffordd yma yn 1849, ac fe godwyd y pier cyntaf yn 1899, gydag Adelina Patti, y gantores enwog, yn yr agoriad swyddogol . Penderfynwyd codi tram i redeg o Fae Colwyn i Landudno ac fe agorwyd hwnnw yn 1907. Yn anffodus bu’n rhaid ei gau rhyw hanner canrif yn ddiweddarach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Live, North Wales (2010-03-18). "Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years". northwales. Cyrchwyd 2019-11-22.
  2. "DAFYDD ap SIANCYN (SIENCYN) ap DAFYDD ap y CRACH (fl. tua chanol y 15ed ganrif), cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
  3. "HARRI (HENRY) VII (1457 - 1509), brenin Lloegr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
  4. "snowdoniaantiques.co.uk - Snowdonia Antiques . North Wales Fine Antique Furniture and Clock Specialists ". snowdoniaantiques.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-21. Cyrchwyd 2019-11-22.
  5. "SALESBURY, WILLIAM (1520? - 1584?), ysgolhaig a phrif gyfieithydd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
  6. "Jones, Inigo (1573–1652), architect and theatre designer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-11-22.
  7. "Gwydir Castle Conwy North Wales". www.gwydircastle.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-22.
  8. "MORGAN, WILLIAM (c.1545 - 1604), esgob a chyfieithydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
  9. "LLYWELYN ap IORWERTH ('Llywelyn Fawr'; 1173 - 1240), tywysog Gwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
  10. "History Points - Aluminium factory site, Dolgarrog". historypoints.org. Cyrchwyd 2019-11-22.
  11. "Adventure Parc Snowdonia - Inspired by Nature". Adventure Parc Snowdonia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-27. Cyrchwyd 2019-11-22.
  12. Pound-Woods, Rosanna (2015-11-02). "Memorial for 'terrible' dam disaster". Cyrchwyd 2019-11-22.
  13. "Canfod mur hen abaty mewn gwesty yn Nyffryn Conwy". 2011-08-18. Cyrchwyd 2019-11-22.
  14. "The Modern Antiquarian: Pen-y-Gaer (Caerhun)". www.themodernantiquarian.com. Cyrchwyd 2019-11-22.
  15. "Caerhun Roman Fort (Canovium) - History & Visiting Information". Britain Express. Cyrchwyd 2019-11-22.
  16. "EVANS, JOHN ('Eglwys Bach'; 1840 - 1897), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
  17. "Bodnant Garden". National Trust. Cyrchwyd 2019-11-22.
  18. "FELIN ISAF MILLING COMPLEX, PENTREFELIN, GLAN CONWY | Coflein". www.coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-22.