Gwydion fab Dôn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymeriad yn y bedwaredd o Bedair Cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy yw Gwydion fab Dôn. Gellir ystyried mai Gwydion, yn hytrach na Math, yw'r prif gymeriad yn y stori. Mae ei fam, Dôn, yn Dduwies Geltaidd sy'n chwaer i Math fab Mathonwy ac a uniaethir â'r dduwies Geltaidd Danu/Anu yn y traddodiad Gwyddelig. 'Caer Wydion' yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y Llwybr Llaethog.

Rhan Gwydion yn chwedl Math fab Mathonwy[golygu]

Yn ôl y chwedl, ni allai Math fab Mathonwy, brenin Gwynedd ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i draed yng nghôl morwyn, ac eithrio yn amser rhyfel. Goewin ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Mae brawd Gwydion, Gilfaethwy fab Dôn, yn syrthio mewn cariad a hi. Dyfala Gwydion fod rhywbeth o'i le ar ei frawd, ac wedi ei holi, mae'n darganfod ei gyfrinach ac yn addo ei helpu.

Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i Ddyfed at Pryderi, prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi, yn ei lys yn Rhuddlan Teifi. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo'r moch a gafodd gan Arawn brenin Annwfn yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond ar ôl i Gwydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Lledir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i Gaer Dathyl ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.

Fel cosb ar y ddau frawd cymerodd Math ei hudlath a tharo Gilfaethwy "hyd onid oedd yn ewig mawr" a tharo Gwydion "hyd onid oedd yn garw". Datganodd Math: "Gan eich bod wedi eich cyd-rwymo fe wnaf ichwi gydgerdded, a'ch bod yn gymaredig ac o'r un natur â'r anifeiliaid gwyllt yr ydych yn eu ffurf, ac yn yr amser y byddo epil iddynt hwy fe fydd i chwithau. A blwyddyn i heddiw dewch yma ataf i." Ymhen y flwyddyn dychwelodd y carw Gwydion a'r ewig Gilfaethwy gydag elain gref yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath a throi Gilfaethwy'n faedd a Gwydion yn hwch goed a'u hanfon ymaith am flwyddyn arall. Cymerodd Math y mab a'i fedyddio gyda'r enw Hyddwn. Ar ôl blwyddyn arall dychwelodd y baedd Gilfaethwy a'r hwch goed Gwydion gydag "anifail o gryn faint...yn fawr o'i oed" yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath unwaith eto a throi Gilfaethwy'n fleiddast a Gwydion yn flaidd. Bedyddiwyd y mab gyda'r enw Hychddwn. Dychwelodd y brodyr ymhen blwyddyn gyda chenau blaidd yn fab iddynt. Cafodd ei fedyddio gyda'r enw Bleiddwn. Dychwelodd Math y ddau frawd i'w cnawd eu hunain a dweud: "Wŷr, os gwnaethoch gam â mi, digon y buoch o dan fy nghosb".

Roedd yn rhaid i Math gael morwyn newydd gan nad oedd Goewin yn forwyn bellach. Cynghorodd Gwydion iddo ddewis Arianrhod, chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei hudlath ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, a bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn ddiweddarach clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Rhoddwyd ef allan i'w fagu am gyfnod, yna magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.

Aeth Gwydion gyda'r bachgen a chyrchu Caer Arianrhod i gyflwyno'r mab i'w fam. Ond digiodd Arianrhod a dweud "O ŵr, beth sydd arnat ti, fy nghywilyddio i, ac erlid fy nghywilydd a'i gadw cyhyd â hyn?" Tyngodd Arianrhod dynged ar ei mab "na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gennyf i."

Wrth aber Afon Menai, ar draeth y Foryd, tyfai llawer o hesg. Trwy hud adeiladodd Gwydion long ohonynt. Gwnaeth hefyd ledr hardd, a’i dorri’n barod i wneud esgidiau. Yna, newidiodd ei wedd ei hun a’r bachgen trwy swyn a rhoi dillad newydd iddynt fel yr ymddangosent fel dau grydd. Hwyliodd y ddau yn y llong hyd tua chaer Arianrhod ac angori wrth y gaer. Bu’r ddau yn ddiwyd yn gwneud esgidiau nes i rai o forynion Arianrhod eu gweld a sylwi pa mor hardd oedd y lledr. Gwnaeth Gwydion y pâr yn rhy fawr a dychwelwyd hwy, a gofyn iddo wneud pâr arall. Gwnaeth yr ail bâr yn fwriadol rhy fach. Dychwelwyd y rhain eto. "Rhaid i’r dywysoges ddod yma i gael mesur ei throed," meddai Gwydion wrth y morynion.

Trannoeth daeth Arianrhod ar fwrdd y llong i gael mesur ei throed ac nid adnabu Gwydion na’i mab. Tra mesurai Gwydion ei thraed disgynnodd dryw bach ar hwylbren y llong. Taflodd y bachgen ato a tharo'r dryw yn ei goes. Chwarddodd Arianrhod ac meddai, "Duw a ŵyr, â llaw gelfydd y trawodd yr un golau ef" a chyda hynny enillodd y mab ei enw: Lleu Llaw Gyffes.

Digiodd Arianrhod a thyngu tynged arall arno, sef "..na chaiff arfau fyth hyd oni wisgaf i hwy amdano." Ond unwaith eto trwy gyfrwystra llwyddodd Gwydion i dwyllo Arianrhod a chael ei chwaer i wisgo arfau am Lleu. Yna tyngodd Arianrhod dynged arall arno, sef "na chaiff fyth wraig o'r genedl sydd ar y ddaear hon yr awr hon."

Wedi clywed hyn aeth Gwydion at Fath, mab Mathonwy, am help a chymerodd Gwydion a Math flodau’r derw, banadl ac erwain a thrwy hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau. Galwyd hi Blodeuwedd, ac yn fuan priodwyd hi a Lleu.

Lleu yn esgyn i'r awyr yn rhith eryr a Blodeuwedd yn gwylio (darlun o argraffiad 1877 o Mabinogion Charlotte Guest)

Ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared â Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. Dywedodd Lleu wrthi na ellid ei ladd os nad oedd yn gyntaf wedi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon, ac wedyn yn sefyll ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a'i daro â gwaywffon. Roedd rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig.

Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan Afon Cynfal (ger Ffestiniog heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.

Taflodd Gronw'r waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu. Gyda chymorth hwch daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd englynion wrtho, sef Englyn Gwydion, nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.

"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Blodeuwedd. Daliwyd hi wrth Llyn y Morynion a dywedodd Gwydion wrthi, "Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan Afon Cynfal a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.

Traddodiadau eraill[golygu]

Ceir nifer o gyfeiriadau at Wydion yng ngherddi Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn enwedig yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr. Mae'r dystiolaeth hyn yn dangos fod y chwedl a geir yn y Mabinogi yn adnabyddus ac mae'n awgrymu hefyd y bu cylch ehangach o chwedlau amdano ar un adeg. Fe'i enwir sawl gwaith yn y cerddi a gysylltir â hanes y Taliesin chwedlonol. Yn y gerdd hynafol Cad Goddau, yn Llyfr Taliesin, dywedir y bu Gwydion yn bresennol yn y frwydr (symbolaidd?) honno ac iddo ef a Lleu rithio coed a blodau trwy hud. Cyfeiria cerdd arall yn Llyfr Taliesin at frwydr rhwng Gwydion a rhyw elyn anhysbys yn Nant Ffrancon. Yn y gerdd Echrys Ynys (Llyfr Taliesin), gelwir Eryri yn 'wlad Gwydion'.[1]

Mae un o Drioedd Ynys Prydain yn cyfeirio at 'Hud Math fab Mathonwy (a ddysgodd i Wydion fab Dôn)' fel un o 'Dair Prif Hud Ynys Prydain'. Mewn triawd arall mae Gwydion yn un 'Dri Eur Gryd Ynys Prydain', cyfeiriad at hanes ei ymweliad â Chaer Arianrhod gyda Lleu Llaw Gyffes.[2]

Yn Englynion y Beddau dywedir fod bedd Gwydion i'w gael ym Morfa Dinlleu (ger Caernarfon).[3] Ceir Bryn Gwydion ger Clynnog Fawr, Gwynedd ac mae Caer Wydion yn enw traddodiadol am y Llwybr Llaethog.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), tt. 401-02.
  2. Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), trioedd 28, 67.
  3. Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), tud. 402.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • W.J. Gruffydd, Math Vab Mathonwy (Caerdydd, 1928). Y testun yn yr orgraff wreiddiol gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog, ynghyd ag astudiaeth fanwl a nodiadau helaeth.
  • Ifans, Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gomer 1980) ISBN 1-85902-260-X (Sylwer fod y dyfyniadau uchod yn dod o'r diweddariad hwn yn hytrach na thestun gwreiddiol y Pedair Cainc.)
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)