Pen-y-gaer, Caerhun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

53°13′N 3°52′W / 53.21°N 3.87°W / 53.21; -3.87 (Pen y Gaer (Bryngaer ).)

Pen y Gaer
Pen y Gaer
Pen y Gaer, Caerhun
Safle Pen-y-gaer o'r gogledd

Bryngaer o Oes yr Haearn gerllaw pentref Llanbedr-y-Cennin yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy yw Pen-y-gaer neu Pen y Gaer. Cyfeirnod OS: SH750693.

Disgrifiad[golygu]

Saif y fryngaer ar fryn ar lechweddau isaf y Carneddau, uwchben ac i'r gorllewin o'r pentref. Mae ganddi amddiffynfeydd cryfion, yn arbennig ar yr ochrau gorllewinol a deheuol, lle maent yn drifflyg. Nodwedd arbennig y fryngaer hon yw presenoldeb chevaux de frise, meini wedi ei gosod o flaen yr amddiffynfeydd yn y fath fodd ag i faglu ymosodwyr sy'n rhedeg tuag atynt.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN023.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Enwau a thraddodiad[golygu]

Yr hynafiaethydd Thomas Pennant, yn ei Tour of North Wales (1773), oedd un o'r cyntaf i dynnu sylw at y fryngaer. Mae'n cofnodi mai 'Pen Caer Helen' oedd enw'r bryn yn ôl pobl lleol ac felly mai 'Caer Helen' oedd yr enw ar y gaer ei hun (cyfeiriad at Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig). Ond mewn llyfr diweddarach cyfeirir ati fel 'Pen Caer Llîn'. 'Pen-y-gaer' yw'r enw gan bawb bron erbyn heddiw, er y gellid dadlau mai enw'r bryn ydyw yn hytrach na'r gaer ei hun. Yn y nodiadau i gyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogion, cynigir uniaethu Pen-y-gaer â Caer Dathyl y Pedair Cainc, ond nid yw hynny'n cael ei dderbyn bellach.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer, Caerhun | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm