Tŷ Aberconwy

Oddi ar Wicipedia
Tŷ Aberconwy
Math Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
LleoliadConwy Edit this on Wikidata
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr8.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2816°N 3.82847°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

canoloesol yn nhref Conwy, Sir Conwy yw Tŷ Aberconwy. Mae'n enghraifft brin yng Nghymru o dŷ cerrig a phren canoloesol. Cafodd ei godi fel tŷ masnachwr yn y 14g.

Saif yr adeilad ar gornel Stryd y Castell a'r Stryd Fawr yng nghanol Conwy, gyferbyn i'r llyfrgell. Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i'r cyhoedd. Ceir arddangosfeydd ar wahanol gyfnodau hanes Conwy ar y llawr cyntaf a siop yr Ymddiriedolaeth ar y llawr isaf.

Aberconwy oedd enw gwreiddiol Conwy a chafodd ei ddefnyddio fel enw'r dref o'r cyfnod cyn goresgyniad Tywysogaeth Cymru (1282-83) hyd y 19g pan ddechreuwyd defnyddio'r talfyriad 'Conwy'.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.