Neidio i'r cynnwys

Y Stagbwll

Oddi ar Wicipedia
Ystagbwll
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Stagbwll a Chastellmartin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.62639°N 4.92133°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/au y DUSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref yng nghymuned Y Stagbwll a Chastellmartin, Sir Benfro, Cymru, yw Y Stagbwll neu Ystagbwll[1] (Saesneg: Stackpole).[2] Saif yn y rhan fwyaf deheuol o'r sir, ger yr arfordir i'r de o dref Penfro. Cyn 2011 roedd yn gymuned ynddo'i hun.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]

Mae ansicrwydd dros ffurf gywir enw'r pentref yn Gymraeg. Cyfeirir at y pentref fel 'Ystagbwll' ar wefan Cyngor Sir Benfro.[5] Ymddangosir yr enw fel 'Ystangbwll' ar arwyddion ffordd wrth fynd mewn i'r pentref (gweler y llun uchod).

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gerllaw ceir pentrefi Bosherston, Cheriton, Sain Pedrog a St. Twynnells. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd trwy'r ardal a cheir golygfeydd arfordirol nodedig.

Pont Y Stagbwll

Yn y 19g roedd stad Stackpole, oedd yn eiddo i deulu Campbell, yn berchen ar 21,000 hectar yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin; dim ond stad Wynnstay yn y gogledd-ddwyrain oedd yn fwy yng Nghymru.

Dymchwelwyd plasdy Stackpole Court yn 1963; mae'r llynnoedd a grëwyd gerllaw yn niwedd y 18g, sef Llynnoedd Bosherston, yn awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pobl o'r Stagbwll

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Tachwedd 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. http://mgwelsh.pembrokeshire.gov.uk/mgParishCouncilDetails.aspx?bcr=1 Cynghorau Tref a Chymuned Sir Benfro | Adalwyd 31 Mawrth 2014