Llaneurgain
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,059 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2046°N 3.1303°W |
Cod SYG | W04000202 |
Cod OS | SJ246681 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Llaneurgain ( ynganiad ) (Saesneg: Northop). Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug a'r Fflint, ar groesffordd 33 ar yr A55, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd gan y pentref boblogaeth o 2,983,[1] ac erbyn 2011 roedd yma 3,049.[2]
Mae ganddo boblogaeth o tua 3000. Ceir dwy dafarn, clwb criced a chlwb golff ynddo. Yng nghanol y pentref saif eglwys Sant Eurgain a Sant Pedr, gyda'i chlochdy'n codi 98 troedfedd uwchben y pentref. Ceir ynddo yn ogystal Goleg Garddwriaeth, sydd bellach yn cael ei reoli gan Brifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Yr eglwys
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad sefydlwyd 'Eglwys Santes Eurgain' yn y 6g; newidiwyd ei henw'n ddiweddarach i Eglwys y Santes Eurgain a Sant Paul. Dywedir fod Eurgain, nith Sant Asaph, wedi ei sefydlu ar ben twmpath cynhanesyddol, lle y saif hyd heddiw. Ceir cofnodion o'r 12g am y gwaith o godi'r eglwys, gyda'r clochdy'n cael ei ychwanegu yn 1571. Cafodd yr adeilad presennol ei atgyweirio'n sylweddol yn 1840 ac eto yn 1877. Mae'r eglwys yn sedd i blwyf Llaneurgain o hyd, sy'n cynnwys Llaneurgain ei hun, Neuadd Llaneurgain, Sychdyn, Helygain, Rhosesmor, a Mynydd y Fflint. Yn y gorffennol roedd yn cynnwys Cei Connah hefyd.
-
I gyfeiriad cefn yr eglwys
-
Ffenest liw
-
Beddrod Lleucu, gwraig Ithel ap Bleddyn o'r 14g
-
Ceir 4 beddrod ym mur y gogledd
-
Beddrod merch, Lleucu Llwyd, yn ôl rhai.
Yn y fynwent ceir hen adeilad ysgol ramadeg Llaneurgain, a godwyd yn y 16g.
Cofrestrwyd yr eglwys berpendicwla hon yn adeilad Gradd I yn Nhachwedd 1962 oherwydd ei dŵr, tŵr tebyg i dyrau Wrecsam a Gresffordd a rhannau o'r Oesoedd Canol.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Pobl o Laneurgain
[golygu | golygu cod]- William Parry: Cynllwynwr Catholig (m. 2 Mawrth 1585)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 2001 Census: Northop, Office for National Statistics, http://neighbourhood.statistics.gov.uk/dissemination/LeadTableView.do?a=3&b=800995&c=northop&d=16&e=15&g=414718&i=1001x1003x1004&m=0&r=1&s=1214862873679&enc=1&dsFamilyId=779, adalwyd 30 Mehefin 2008
- ↑ "Community/Ward population 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-05. Cyrchwyd 26 Mai 2015.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog