Gogledd Corea

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gogledd Korea)
Jump to navigation Jump to search
조선민주주의인민공화국
朝鮮民主主義人民共和國
Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk

Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea
Baner Gogledd Corea Arfbais Gogledd Corea
Baner Arfbais
Arwyddair: 강성대국
(Gwlad ffyniannus a gwych)
Anthem: Aegukka
Lleoliad Gogledd Corea
Prifddinas P'yŏngyang
Dinas fwyaf P'yŏngyang
Iaith / Ieithoedd swyddogol Coreeg
Llywodraeth Comiwnyddol/Sosialaidd
- Arlywydd Tragwyddol y Weriniaeth Kim Il-sung
- Cadeirydd Comisiwn Amddifyn Cenedlaethol Kim Jong-un
- Arlywydd Cynulliad Goruchaf y Bobl Choe Ryong-hae
- Prif Weinidog Choe Yong-rim
Annibyniaeth
- Dyddiad
oddi wrth Japan
15 Awst 1945
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
120,540 km² (90ain)
4.87%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Dwysedd
 
23,113,019 (48ain)
190/km² (55ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$40 biliwn (85ain)
$1800 (149ain)
Indecs Datblygiad Dynol (n/a) n/a (n/a) – n/a
Arian cyfred Wŏn (₩) (KPW)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+8:30)
Côd ISO y wlad dim (cedwir .kp)
Côd ffôn +850

Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Chosŏn'gŭl: 조선민주주의인민공화국; Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk) neu Gogledd Corea (Ynghylch y sain hon gwrando). Mae wedi'i lleoli yn hanner gogleddol Penrhyn Corea. Mae'n ffinio â De Corea i'r de, Tsieina i'r gogledd a Rwsia i'r gogledd-ddwyrain. Ei phrifddinas yw Pyongyang sef dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth ac arwynebedd. Ceir dwy afon ar y ffin gyda Tsieina: Afon Amnok ac Afon Tumen. Mae gan y wlad arfau niwclear ac wedi dod a'u trafodaethau heddwch, gyda De Corea a'r UDA i ben. Mae'r Unol Daleithiau a Tsieina wedi cytuno ar sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea am ddatblygu taflegrau pellgyrhaeddol, ac am eu profion niwclear diweddar (2013).

Conglfaen eu hathrawiaeth ydy disgyblaeth wleidyddol y Chuch'e (neu Juche), sef athrawiaeth Kim Il-sung sy'n mynnu fod datblygiad y wlad yn nwylo'r werin datws. Defnyddir yr athrawiaeth hon gan Lywodraeth y wlad i gyfiawnhau ei gweithredoedd.

Collodd Gogledd Corea ffrind mynwesol a phwerus pan ddatgymalwyd yr Undeb Sofietaidd ym 1991, er bod ganddi gysylltiad cryf gyda Tsieina. Ar ben hyn dioddefodd y wlad oherwydd sawl trychineb naturiol a phrofodd newyn enbyd rhwng 1994 a 1998; credir i rhwng 240,000 i 1,000,000 o bobl farw.[1][2]

Hanes creu'r ddwy Weriniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llywodraethwyd y penrhyn gan Ymerodraeth Corea o ddiwedd y 19g i ddechrau'r 20g, pan gafod ei reoli gan Japan yn 1910. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd peidiodd y cysylltiad hwn gyda Japan a rhannwyd y penrhyn yn ddau gyda Rwsia'n rheoli'r gogledd ac Unol Daleithiau America'n rheoli'r de. Ym 1948, dan oruchwyliaeth y Cenhedloedd Unedig, cynhaliwyd etholiadau yn y ddwy wlad a chyhoeddwyd dwy lywodraeth ar wahân yn y ddau ranbarth: Gwladwriaeth Ddemocrataidd Pobl Corea yn y gogledd a Gwladwriaeth Corea yn y de.

Cyhoeddodd y gogledd a'r de, yn eu tro, eu hawl sofran i reoli'r penrhyn cyfan a ffrwydrodd y dadlau'n rhyfel erbyn 1950: Rhyfel Corea.

Kim Il-sung (1912-94) a Rhyfel Corea[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymosododd Gogledd Corea ar y De, dan eu harweinydd comiwnyddol Kim Il-sung rhwng 1950 a 1953, ond cawsant eu hatal gan fyddin yr UDA. Ers hynny dysgir plant ysgolion y Gogledd fod milwyr America wedi cyflawni erchyllterau rhyfel yn erbyn pobl y wlad. Cânt eu cyflyru i gredu y daw dydd pan fydd America'n ailadrodd hyn ac mai'r unig ymwared rhag y fath ymosodiad yw cadernid y teulu Kim, a'u harbedodd y tro diwethaf yn 1953.[3] Cafwyd cadoediad yn 1953, ond yn swyddogol mae'r ddwy wlad yn parhau i fod mewn stâd o ryfel, gan nad arwyddwyd y cytundeb.[4] Derbyniwyd y ddwy wlad fel aelodau o'r Cenhedloedd Unedig yn 1991.[5]

Wedi marwolaeth Kim Il-sung, mabwysiadwyd ei athrawiaeth Chuch'e yn lle sosialaeth Marx-Lennin drwy'r wlad pan gyhoeddwyd Cyfansoddiad Gogledd Corea yn 1973. Yn 2009, dilëwyd pob cyfeiriad at gomiwnyddiaeth (Chosŏn'gŭl: 공산주의) o'r Cyfansoddiad.[6]

Dyrchafwyd Kim yn "Llywydd Tragwyddol" y wlad, gan roi elfen ddwyfol iddo.[7][8]

Kim Jong-il (1942-11)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl y chwedl, gwelwyd enfys ddwbl ar ddiwrnod genedigaeth Kim, yn arwydd o'i enedigaeth fraint a'i ddwyfoldeb. Fe'i dyrchafwyd yn dduw mabolgampau a cheir nifer o storïau swyddogol sy'n ei godi'n uwch na'r cyffredin e.e. yn ei gêm gyntaf o golff, llwyddodd i daro 11 twll-mewn-un. Stori arall a grëwyd gan y wlad yw iddo arwain tim pêl-droed Gogledd Corea yng Nghwpan y Byd gyda thechnoleg "ffôn-llaw anweledig" roedd Kim ei hun wedi'i ddyfeisio.[3]

O ganlyniad i ddatgymalu'r Undeb Sofietaidd a chreu Gogledd Corea'n wlad ynysig, unig, galwyd hi'n "Deyrnas Feudwyaidd" neu "Meudwy o Wlad" sy'n ailwampiad o enw a dadogwyd i Ymerodraeth Corea yntau flynyddoedd yn ôl. Ceir etholiadau, mewn enw'n unig, a gelwir y Weriniaeth gan y cyfryngau'n "Unbennaeth Stalinistaidd a Thotalitaraidd."[9]

Kim Jong-un (ganwyd 1983 neu 84)[golygu | golygu cod y dudalen]

Etifeddodd Kim yr arweinyddiaeth yn 2011, a gwelwyd ar unwaith ei fod yn arweinydd "a'i draed ar y ddaear", gan ymweld yn aml â'r bobl gyffredin a gwenu llawer. Trydydd mab Kim Jong-il oedd ef.

Addysg ac Iechyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae addysg i bawb, o bob oed, am ddim. Mae'n un o wledydd mwyaf llythrennog y byd gyda chyfartaledd o 99% o bobl yn medru darllen ac ysgrifennu. Ceir gwasanaeth iechyd cenedlaethol sy'n gyfan gwbl am ddim i bawb. Mae'r wlad hefyd yn cyfrannu'n helaeth i ddod a phrisiau bwyd i lawr.[10]

Cabined deintyddol yn un o ysbytai mawr y wlad.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Topograffeg Gogledd Corea

Gorwedd y Wladwriaeth rhwng lledred 37° a 43°Gog a hydred 124° a 131°Dwy. Mae ganddo arwynebedd o 120,540 km2. I'r gorllewin saif y Môr Melyn a Bae Corea a thros Fôr Japan mae Japan ei hun. Y copa uchaf yn y wlad ydy Mynydd Baekdu sy'n 2,744 m a'r afon hiraf ydy Afon Amnok sy'n llifo am 790 m.[11] Y brifddinas (a'r ddinas fwyaf) ydy Pyongyang; ac ymhlith dinasoedd pwysicaf y wlad mae Kaesong yn y de, Sinuiju yn y gogledd-orllewin, Wonsan a Hamhung yn y dwyrain a Chongjin yn y gogledd-ddwyrain.

Map Enwa Chosŏn'gŭl Rhanbarth weinyddol
Prifddinas (chikhalsi)a
1 Pyongyang 평양직할시 (Chung-guyok)
Dinas arbennig (teukbyeolsi)a
2 Rason * 라선특별시 (Rajin-guyok) *
Rhanbarth (do)a
3 De Pyongan 평안남도 Pyongsong
4 Gogledd Pyongan 평안북도 Sinuiju
5 Rhanbarth Chagang 자강도 Kanggye
6 Rhanbarth De Hwanghae 황해남도 Haeju
7 Rhanbarth Gogledd Hwanghae 황해북도 Sariwon
8 Rhanbarth Kangwon 강원도 Wonsan
9 Rhanbarth De Hamgyong 함경남도 Hamhung
10 Rhanbarth Gogledd Hamgyong 함경북도 Chongjin
11 Rhanbarth Ryanggang * 량강도 Hyesan
* – Cofnodir mewn tafodiaith y De fel "Yanggang" (양강), "Nason" (나선), neu "Najin" (나진).

Hawliau dynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Amnest Rhyngwladol a'r Human Rights Watch[12][13] ceir cyfyngiadau ar hawliau sylfaenol dinasyddion y wlad, er bid y Llywodraeth yn wfftio hyn.[14][15][16]

Yn y 1990au cosbwyd pobl y wlad a oedd yn gwrando ar Radio De Corea yn ddifrifol; danfonwyd nifer i garchardai am ganu caneuon o Dde Corea.[17]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Stephan Haggard, Marcus Noland, and Amartya Sen, Famine in North Korea, Columbia University Press, tud. 209.
  2. Spoorenberg, Thomas; Schwekendiek, Daniel. "Demographic Changes in North Korea: 1993–2008", Population and Development Review, 38(1), tud. 133-158.
  3. 3.0 3.1 The Telegraph; 31 Mawrth 2013; Colofn Tim Stanley; tud 31.
  4. "U.S.: N. Korea Boosting Guerrilla War Capabilities". FOX News Network, LLC. 2009-06-23. http://www.foxnews.com/story/0,2933,528320,00.html. Adalwyd 2009-07-04.
  5. Sanger, David E. (1991-05-29). "North Korea Reluctantly Seeks U.N. Seat". The New York Times Company. http://www.nytimes.com/1991/05/29/world/north-korea-reluctantly-seeks-un-seat.html. Adalwyd 2009-07-04.
  6. DPRK has quietly amended its Constitution (Nodyn:Webcite)
  7. "Constitution of North Korea (1972)". 1972. Cyrchwyd 2009-05-07.
  8. Martin, Bradley K. (2004). Under the Loving Care of the Fatherly Leader: North Korea and the Kim Dynasty. Efrog Newydd: Thomas Dunne Books. p. 111. ISBN 0-312-32322-0. Er iddo draethu'n helaeth ar juche yn 1955, roedd egin ei syniadau i'w gweld mor bell yn ôl â 1948.
  9. Spencer, Richard (2007-08-28). "North Korea power struggle looms". The Telegraph (ar y we) (Llundain). http://www.telegraph.co.uk/news/main.jhtml?xml=/news/2007/08/28/wnkorea128.xml. Adalwyd 2007-10-31. "A power struggle to succeed Kim Jong-il as leader of North Korea's Stalinist dictatorship may be looming after his eldest son was reported to have returned from semi-voluntary exile."
  10. Library of Congress country study, tud. 7: Addysg; a thud. 8 am Iechyd (Nodyn:Webcite)
  11. Caraway, Bill (2007). "Korea Geography". The Korean History Project. Cyrchwyd 2007-08-01.
  12. Seok, Kay (2007-05-15). "Grotesque indifference". Human Rights Watch. Cyrchwyd 2007-08-01.
  13. "Human Rights in North Korea". hrw.org. Human Rights Watch. 2009-02-17. Cyrchwyd 2010-12-13.
  14. KCNA Assails Role Played by Japan for UN Passage of "Human Rights" Resolution against DPRK, KCNA, DRhagfyr 22, 2005.
  15. KCNA Refutes U.S. Anti-DPRK Human Rights Campaign, KCNA, Tachwedd 8, 2005.
  16. "February 2012 DPRK (North Korea)". United Nations Security Council. 2012. Unknown parameter |month= ignored (help)
  17. "After 28 years in North Korean camp, survivor speaks out | Inquirer News". Newsinfo.inquirer.net. 2012-06-23. Cyrchwyd 2013-03-08.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]