Human Rights Watch
| Enghraifft o: | international non-governmental organization, sefydliad di-elw, sefydliad hawliau dynol, Undesirable foreign organization in Russia |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1978, 1988 |
| Sylfaenydd | Robert L. Bernstein, Aryeh Neier, Jeri Laber |
| Rhagflaenydd | Helsinki Watch |
| Aelod o'r canlynol | International Freedom of Expression Exchange, Campaign to Stop Killer Robots, Forum Menschenrechte, Conference of NGOs |
| Gweithwyr | 450 |
| Ffurf gyfreithiol | sefydliad di-elw, sefydliad 501(c)(3) |
| Asedau | 242,488,346 $ (UDA), 241,144,801 $ (UDA), 215,273,019 $ (UDA), 229,511,883 $ (UDA), 228,020,161 $ (UDA), 246,423,495 $ (UDA), 240,275,592 $ (UDA), 220,621,008 $ (UDA), 211,044,860 $ (UDA), 221,073,036 $ (UDA), 217,613,864 $ (UDA), 201,979,141 $ (UDA), 224,270,259 $ (UDA), 219,032,950 $ (UDA) |
| Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
| Gwefan | https://www.hrw.org/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0ckxt |
| Quora | Human-rights-watch |

Corff heb gysylltiad â llywodraeth sy'n amddiffyn hawliau dynol yw Human Rights Watch (HRW). Lleolir ei bencadlys yn Ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl dinas o gwmpas y byd. Fe'i sefydlwyd yn 1988 ar ôl cyfuno sawl mudiad, yn enwedig Helsinki Watch. Rhoddwyd wobr Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i Human Rights Watch yn 2008 (ar y cyd â Louise Arbour, Benazir Bhutto, Ramsey Clark, yr Athro Carolyn Gomes, yr Athro Denis Mukwege a'r Chwaer Dorothy Stang)[1]
Mae HRW yn gweithredu ar lefel ryngwladol i geisio sicrhau fod y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol yn cael ei barchu ymhob gwlad, er enghraifft mewn perthynas â rhyddid mynegiant, yn cynnwys rhyddid y wasg. Mae'n ceisio dod â throseddau rhyfel â masnachu arfau anghyfreithlon i sylw'r byd ac yn barod i feirniadu llywodraethau sy'n euog o hynny. Mewn canlyniad mae HRW wedi cael ei feirniadu gan rai am fod yn fudiad gydag amcanion gwleidyddol, er enghraifft pan gondemniodd Llu Amddiffyn Israel am ei ddefnydd o ffosfforws gwyn yn Gaza yn 2009.