Neidio i'r cynnwys

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Oddi ar Wicipedia
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Enghraifft o:Deddf Senedd Cymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Deddf a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru bellach) a gafodd gydsyniad brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yw Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Saesneg: Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015); daeth i rym ym mis Ebrill 2016.[1] Mae'n cynnwys saith prif nod:

  1. Cymru lewyrchus,
  2. Cymru gydnerth,
  3. Cymru iachach,
  4. Cymru sy'n fwy cyfartal,
  5. Cymru o gymunedau cydlynus,
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  7. Chymru sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang.

Er mwyn cyflawni hyn ceir hefyd 'yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy' sy'n cynnwys pum agwedd er mwyn cyflawni'r nodau hyn, sef:

  1. hirdymor,
  2. atal,
  3. integreiddio,
  4. cydweithio
  5. chynnwys.[2]

Gweithredu

[golygu | golygu cod]

Mae'r Ddeddf yn nodi mai cyfrifoldeb y sefydliadau canlynol yw ei gweithredu:

Y 5 rhan

[golygu | golygu cod]
  • Rhan 1: Cyflwyniad:trosolwg o'r Ddeddf
  • Rhan 2: Gwella llesiant: mae'r rhan hon o'r Ddeddf yn nodi'r amcanion i weinidogion Cymru ac yn manylu ar ddyletswyddau'r cyrff cyhoeddus. Mae'n disgrifio sut y dylid mesur perfformiad tuag at gyflawni'r nodau ac mae'n darparu arweiniad.
  • Rhan 3: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru: mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn nodi rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n cynnwys dyletswydd i adolygu a gwneud argymhellion ac yn sefydlu panel i gynghori'r Comisiynydd.
  • Rhan 4: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus: mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn gosod dyletswydd llesiant arnynt. Mae'n disgrifio paratoi ac adolygu cynlluniau llesiant lleol.
  • Rhan 5: Darpariaethau Terfynol: mae Rhan 5 o'r Ddeddf yn diffinio cyrff cyhoeddus yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth, ac yn nodi rheoliadau a materion ategol eraill.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Well-being, Wales". The Gazette Official Public Record. 22 Gorffennaf 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-14. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
  2. "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015" (PDF). 17 Mehefin 2015. Cyrchwyd 2021-02-16.