Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru
(Ailgyfeiriad oddi wrth Canol Oesoedd diweddar yng Nghymru)
Jump to navigation
Jump to search
Yn hanes Cymru, roedd yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru yn adeg pan ddaeth annibyniaeth wleidyddol y Cymry i ben. Ar ôl i Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, gael ei fradychu a'i ladd yn Nghilmeri yn 1282 daeth y wlad dan reolaeth Edward I, Brenin Lloegr. Adeiladodd Edward gestyll ar hyd arfordir Cymru mewn cylch haearn o gwmpas y wlad â chafodd ei fab Edward ei arwisgo yn Dywysog Cymru.
Yn y 15g cafwyd gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond ni lwyddodd i ailsefydlu teyrnas annibynnol ond am gyfnod byr. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno cafwyd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn Lloegr a effeithiodd yn fawr ar Gymru. Yn 1485 ddaeth Harri Tudur i'r orsedd ar ôl curo Rhisiart III ym Mrwydr Maes Bosworth a dechreuodd cyfnod y Tuduriaid.
Rhai uchafbwyntiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1282-1283 - Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru, lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf a dienyddio ei frawd Dafydd a meddiannu Cymru gan Edward I o Loegr. Edward yn gorchymyn codi cylch o gestyll o amgylch y wlad, e.e. Castell Caernarfon a Castell Conwy.
- 1284 - Statud Rhuddlan yn trefnu Tywysogaeth Cymru a gosod y sylfeini ar gyfer system o siroedd.
- 1287-1288 - Gwrthryfel Cymreig dan arweiniad Rhys ap Maredudd yn y de.
- 1294-1295 - Gwrthryfel Cymreig dan arweiniad Madog ap Llywelyn ac eraill, yn y de a'r gogledd.
- 1301 - Cyhoeddi Edward, mab 17 oed Edward I, yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon.
- 1314 - Gwrthryfel byrhoedlog ym Morgannwg.
- 1316 - Gwrthryfel Llywelyn Bren yn y De.
- tua 1330 - Gramadeg Einion Offeiriad yn rhoi trefn ar y Pedwar Mesur ar Hugain.
- 1348-1350 - Y Pla Du yn difrodi Cymru gan achosi marwolaethau niferus ac anhrefn gymdeithasol.
- 1369-1377 - Y Cymry yn disgwyl gweld Owain Lawgoch yn dod o Ffrainc, fel y Mab Darogan hir-ddisgwyliedig, i ryddhau'r wlad o afael y Saeson.
- 1400 - Cychwyn gwrthryfel Owain Glyndŵr.
- 1401 - Brwydr Hyddgen; mae Glyn Dŵr yn ennill mwy o gefnogwyr.
- 1402 - Deddfau Penyd yn erbyn y Cymry yn cael eu llunio gan Senedd Lloegr.
- 1404 - Senedd Machynlleth.
- 1405 - y Cytundeb Tridarn rhwng Owain Glyndŵr a'i gynghreiriad Henry Percy, Iarll 1af Northumberland ac Edmund Mortimer.
- 1406 - Senedd Pennal.
- 1409 - Castell Harlech yn syrthio i'r Saeson.
- c.1415 - Diflannu Owain Glyndŵr.
- c.1451 - Eisteddfod Caerfyrddin o dan nawdd Gruffudd ap Nicolas.
- 1461 - Brwydr Mortimer's Cross gyda nifer o Gymry yn cymryd rhan ond plaid yr Iorciaid yn ennill y dydd.
- 1471 - Sefydlu Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo gan Edward IV o Loegr.
- 1485 - Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau ac yn recriwtio Cymry ; trechu Rhisiart III o Loegr ganddo ym Mrwydr Bosworth
- 1498 - Gwrthryfel ym Meirionnydd.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- A. D. Carr, Owain of Wales : the End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991)
- R. R. Davies, The Age of Conquest. Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0198201982
- R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)