Cytundeb Tridarn
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Chwefror 1405 |
Cytundeb a luniwyd, yn ôl pob tebyg, ar 28 Chwefror, 1405, rhwng Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, ac Edmund Mortimer (mab-yng-nghyfraith Glyn Dŵr) oedd y Cytundeb Tridarn neu'r Cytundeb Triphlyg (Saesneg: Tripartite Indenture). Mae'n bosibl ei fod wedi ei lunio yn nhŷ archddiacon Bangor. Ceir yr unig gopi sydd wedi goroesi mewn cronicl Seisnig a elwir yn Gronicl Giles, ond mae'n destun anghyflawn.
Gellid dadlau fod y Cytundeb Tridarn yn un o'r dogfennau mwyaf syfrdanol yn hanes Prydain. Mae'r cytundeb yn ymrwymo'r cyngrheiriaid i gymhorthu ei gilydd yn erbyn unrhyw berygl iddynt fel arwyddwyr y cytundeb.
Ond fe â llawer ymhellach na hynny. Cyfeirir at broffwydoliaeth, sy'n deillio mae'n debyg o'r Canu Darogan Cymreig, sy'n darogan yr ymrennir 'llywodraeth Prydain Fwyaf' (Lladin: regimen Brittaniae Majoris) rhwng tri arglwydd. Glyn Dŵr a'i gynghreiriad yw'r arglwyddi hynny. Byddant yn rhannu Ynys Brydain (heb gynnwys yr Alban) rhyngddynt fel pennaethau sofrennaidd annibynnol. Ond fe â'r ddogfen ymhellach fyth. Caiff Iarll Northumberland ddeuddeg sir yng ngogledd a chanolbarth Lloegr ac mae Edmund Mortimer i gael gweddill Lloegr. Byddai hynny'n drefniant parhaol iddyn nhw a'u etifeddion.
A dyma'r rhan a roddir i Glyn Dŵr a phob Tywysog Cymru ar ei ôl, yn ôl y ddogfen:
- the whole of Cambria or Wales divided from Leogria now commonly called England by the following borders, limits, and bounds: from the Severn estuary as the River Severn flows from the sea as far as the northern gate of the city of Worcester; from that gate directly to the ash trees known in Cambrian or Welsh language as Onennau Meigion which grow on the high road from Bridgnorth to Kinver; then directly along the highway... to the head or source of the River Trent; thence to the head or source of the river commonly known as the Mersey and so along to the sea.[1]
Byddai Glyn Dŵr a'i ddisgynyddion yn teyrnasu ar Gymru Fawr annibynnol felly a theyrnas Lloegr yn cael ei rhannu yn ddwy ran. Byddai'r Gymru Fawr honno yn cynnwys Swydd Gaer gyfan a rhannau helaeth o siroedd eraill y Mers ar ochr Lloegr, sef Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw (roedd nifer sylweddol o Gymry yn byw yn y tair sir olaf a'r Gymraeg yn iaith byw mewn sawl ardal).
Mae'r cytundeb yn dyst i uchelgais mawr Glyn Dŵr i sefydlu Cymru'n deyrnas annibynnol ac yn adlewyrchu ei gryfder ar y pryd, gyda chefnogaeth brenin Ffrainc ac Edmund Mortimer, a hawliai goron Lloegr, yn fab-yng-nghyfraith iddo. Ond daeth tro ar fyd ac ni wireddwyd y cytundeb.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyfynnwyd gan R. R. Davies yn The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t.167