Kinver
Gwedd
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Ardal De Swydd Stafford |
| Poblogaeth | 7,099, 6,805, 7,225 |
| Gefeilldref/i | Park Ridge |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Stafford (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.4488°N 2.228°W |
| Cod SYG | E04008971 |
| Cod OS | SO845835 |
| Cod post | DY7 |
![]() | |
Pentref mawr a phlwyf sifil yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Kinver. Gorwedda yn ne-orllewin y sir, ym mhen y llain gul o dir yn Swydd Stafford a amgylchynir gan siroedd Swydd Amwythig, Swydd Gaerloyw a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae'r trefi agosaf yn cynnwys Stourbridge yng Ngorllewin y Canolbarth, a Kidderminster yn Swydd Gaerloyw. Mae Camlas Swydd Stafford a Swydd Gaerloyw yn rhedeg trwy'r pentref, yn agos i gwrs Afon Stour.
Cyfeiria at Kinver yn y Cytundeb Tridarn (1405) fel un o'r lleoedd sy'n nodi'r ffin arfaethedig rhwng Cymru Fawr a dwy ran Lloegr dan amodau'r cytundeb hwnnw.
